Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021

1087 diwrnod yn ôl

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021 yn cael ei chynnal o  ddydd Llun, 10 Mai i ddydd Sul, 16 Mai, a dyma gyfle gwych i feddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud i gynnal iechyd meddwl da. ‘Natur’ yw thema’r wythnos eleni ac rydym yn eich annog i feddwl sut y gall cysylltu â natur a’r amgylchedd helpu eich llesiant meddyliol. Dengys ymchwil fod treulio amser mewn mannau gwyrdd yn cynnig llawer o fanteision o ran eich iechyd. Yn eu plith y mae gwella eich hwyliau, teimlo llai o straen a phryder, gwella'ch hunan-barch a'ch hyder a'ch helpu chi i fod yn fwy egnïol. 

Mae Mental Health UK yn ein gwahodd i ymgolli yn y model ‘Pum Ffordd at Lesiant’ yn ystod yr wythnos, wrth ailgysylltu â natur. Mae'r 'Pum Ffordd at Lesiant' yn hynod bwysig i wella ein hiechyd meddwl, ac mae’n cynnwys y themâu canlynol sef cysylltiad, cadw'n egnïol, dysgu, helpu eraill, a thalu sylw. Yn unol â hyn, gallwch bellach gofrestru i dderbyn cynnwys dyddiol ynglŷn â'r 'Pum Ffordd at Lesiant' drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Byddwch yn derbyn llythyr newyddion yn ddyddiol sy'n cynnwys blogiau, podlediadau, cynghorion a chyngor.  

Mae digon o bethau eraill yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos y gallwch chi gymryd rhan ynddynt. Beth am fynd i un o weminarau iechyd meddwl Ambiwlans Sant Ioan, sy'n rhad ac am ddim, neu gofrestru ar gyfer her Take Action, Get Active’ y Sefydliad Iechyd Meddwl? Bydd hyn yn oed sgwrs am iechyd meddwl gyda ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr yn ystod yr wythnos yn helpu i godi ymwybyddiaeth. Cofiwch fod gwybodaeth, adnoddau a chymorth ar gael ichi bob amser trwy'r tudalennau Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol.