16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais Domestig
889 diwrnod yn ôl
Bydd 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais Domestig yn cael eu cynnal rhwng 25 Tachwedd a 10 Rhagfyr. Mae'r fenter hon ar waith i annog a chefnogi sefydliadau i godi mwy o ymwybyddiaeth am Gam-drin Domestig ac i addysgu pobl am sut y gallant fynd i'r afael â Thrais Domestig.
Ffeithiau:
- Mae trais domestig yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu bywydau fel oedolyn.
- Mae 75% o bobl sy'n dioddef cam-drin domestig wedi'u targedu yn y gwaith
- Yn y sefyllfa waethaf posibl, mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos drwy drais domestig
Gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, waeth beth fo'i ryw, oedran, ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, rhywioldeb neu gefndir. Gall cam-drin domestig gynnwys cam-drin Emosiynol, Bygythiadau a Brawychu, cam-drin Corfforol neu gam-drin Rhywiol, ac nid yw bob amser yn amlwg. Er mwyn ein helpu i adnabod arwyddion perthynas gamdriniol, mae gwefan y Llywodraeth yn amlinellu rhestr o gwestiynau defnyddiol i'w gofyn i ni'n hunain.
Os ydych chi neu ffrind yn dioddef cam-drin domestig, gallwch geisio cymorth pellach:
- Mewn argyfwng ffoniwch 999 a defnyddiwch yr Ateb Tawel os na allwch siarad.
- Cysylltwch â Byw Heb Ofn drwy ffonio 0808 80 10 800, anfon neges destun at 07860 077333 neu e-bostio gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru (mae pob un o'r rhain ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos).
- Lawrlwythwch yr ap Bright Sky i gael cyngor a gweld gwasanaethau lleol .
- Cadwch lygad am yr arwydd llaw sy'n dangos bod rhywun yn dioddef cam-drin domestig. Mae'r fideo hwn yn esbonio'r arwydd a gallwch gael cyngor ar beth i'w wneud ar wefan Domestic Shelters.
- Lawrlwythwch ap Hollie Guard i newid eich ffôn clyfar yn ddyfais diogelwch personol.
- Gofynnwch am ddefnyddio'r man diogel mewn fferyllfeydd sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio'r gair cod 'Gofyn am ANI'.
Canllawiau i Reolwyr
Os yw gweithiwr wedi dweud wrthych chi'n gyfrinachol ei fod yn dioddef cam-drin domestig, helpwch y gweithiwr i ystyried creu ei rwydwaith cymorth cymdeithasol. Mae SafeLives yn adnodd gwych sy'n rhoi canllawiau ar sut i greu cynllun diogelwch. Gellir defnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Llesiant yn yr Uned Iechyd Galwedigaethol hefyd i roi strategaethau a thechnegau i'r unigolyn i'w gefnogi'n emosiynol.
I gael rhagor o wybodaeth, adnoddau a chymorth, ewch i'n tudalennau Cam-drin Domestig ar y fewnrwyd.