Proses Geisiadau Newydd ar gyfer Prosiectau TG a Thrawsnewid Digidol

172 diwrnod yn ôl

Yn ddiweddar, mae'r Gwasanaethau TGCh wedi cyflwyno proses geisiadau newydd yr ydym yn ei galw'n Fynegiant o Ddiddordeb. Gellir ystyried Mynegiant o Ddiddordeb fel achos busnes dros wneud cais am Adnodd TG neu gyllid y Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol. Mae'n rhoi cyfiawnhad dros y gwaith/prosiect y gofynnwyd amdano, a bydd yn helpu'r gwasanaeth i flaenoriaethu (gyda chefnogaeth eich pennaeth gwasanaeth) y gwaith sy'n ofynnol gan eich adran.

RHAID i reolwyr gwasanaeth gyflwyno cais Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer y canlynol:

  • Prosiectau Trawsnewid Digidol.
  • Gwneud cais am gyllid y Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol.
  • Wrth ofyn am adnoddau TG ar gyfer prosiectau neu eitemau gwaith wedi'u cynllunio.
  • Ar gyfer unrhyw waith integreiddio gyda'n systemau ariannol mewnol (h.y. Agresso a CAPITA).

Noder: Ni ddylid cyflwyno ceisiadau Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer materion/diffygion sy'n ymwneud â TG. Ar gyfer y rhain, cofnodwch alwad gyda'r Porth Hunanwasanaeth y Ddesg Gymorth TG.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am ein Proses Mynegiant o Ddiddordeb neu i gyflwyno eich cais Mynegiant o Ddiddordeb.