Arferion Iach

660 diwrnod yn ôl

Yn ystod y cyfnodau prysur ac anodd hyn, mae'n hawdd iawn rhoi'r gorau i sicrhau bod ein hiechyd a'n llesiant yn flaenoriaeth. Wrth i amser fynd heibio, credwn y gall fod yn ormod o ymdrech i roi ein hunain yn gyntaf ac efallai y byddwn yn dechrau dysgu arferion nad ydynt o gymorth.

Fodd bynnag, mae edrych ar ôl ein hunan, ein llesiant a'n hiechyd meddwl yn haws nag ydych chi’n meddwl!

Eleni, rydym yn herio ein cydweithwyr ledled yr awdurdod, i gyfnewid arfer nad yw o gymorth am opsiwn iachach. Gallai'r arferion iachach hyn fod mor syml â mynd i'r gwely'n gynnar neu yfed wyth gwydraid o ddŵr y dydd fel yr argymhellir.

Rhowch gynnig ar un neu fwy o'r arferion iachach am wythnos a gweld sut y gallai'r newidiadau bach hyn helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i'ch iechyd a'ch llesiant corfforol a meddyliol. Ewch i'n tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau i gael argymhellion a llenwch y tabl a ddarperir, fel y gallwch gadw golwg ar eich cynnydd! Beth am annog ffrind neu gydweithiwr i wneud yr her gyda chi er mwyn cael cefnogaeth drwy gydol yr wythnos!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, anfonwch e-bost at Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk