Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

934 diwrnod yn ôl

Nod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (9-16 Hydref) yw dod â phobl at ei gilydd i sefyll mewn undod, addysgu a dysgu, a chefnogi'r rhai sydd angen cymorth parhaus.

Trosedd gasineb yw unrhyw ymddygiad troseddol sy’n ymddangos fel petai wedi’i ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, yn seiliedig ar nodweddion ymddangosiadol person, megis:

  • hil
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth trawsryweddol
  • anabledd

Mae'n gallu cynnwys difrïo geiriol, brawychu, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrodi eiddo. Gall yr unigolyn sy’n cyflawni’r drosedd fod yn ddieithr i chi, neu yn ffrind.

Mae gennym ganllawiau a pholisïau ar waith i amddiffyn staff, megis ein Polisi Cyfryngau Cymdeithasol, ein Côd Ymddygiad a'n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Mae modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth ar gael i staff, o'r enw Cyflwyniad i Droseddau Casineb/Troseddau Cyfeillio. A fyddech cystal â chymryd yr amser i'w gwblhau.

Os ydych wedi dioddef trosedd casineb gallwch roi gwybod i'r heddlu neu i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb (sy'n cael ei chynnal gan Gymorth i Ddioddefwyr.) Gallwch ddod o hyd i gymorth drwy fynd i https://www.reporthate.victimsupport.org.uk/cy/ neu ffonio 0300 3031 982 am ddim ar unrhyw adeg.

Gallwch hefyd roi gwybod am y troseddau hyn os byddwch yn eu gweld yn digwydd i rywun arall. Gall yr heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr gynnig cymorth i chi i ddelio â'r hyn a ddigwyddodd i chi a dod o hyd i ffordd ymlaen.