Diwrnod Atal Hunanladdiad

965 diwrnod yn ôl

Mae'n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad ar 10 Medi. Eleni thema'r Gymdeithas Atal Hunanladdiad Genedlaethol (NSPA) yw 'Creu Gobaith Drwy Weithredu.'  Yma maent wedi annog unigolion i rannu pa gamau maent yn eu cymryd pan fyddant yn teimlo'n isel, a beth sy'n gwneud iddynt deimlo'n obeithiol. Hoffem felly eich gwahodd i wneud yr un peth.  Rhannwch gyda ni, eich awgrymiadau a'ch cyngor ar yr hyn rydych chi'n ei wneud i gadw'n obeithiol, a'u hanfon ar e-bost i: health&wellbeing@sirgar.gov.uk

Yn ôl y Samariaid bu farw 5,691 o bobl drwy hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr yn 2019, sef 321 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Mae pob hunanladdiad yn drychinebus ac yn cael effaith sylweddol ar bawb sydd o'u cwmpas nhw. Fodd bynnag, drwy godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a thrwy addysg, gellir lleihau achosion. Gyda hyn mewn golwg, beth am gofrestru ar gyfer gweminar am ddim Ajuda ar Atal Hunanladdiad ar 9 Medi, i ddysgu mwy am sut y gallwch helpu.

Gallwch ddod o hyd i ddolenni cymorth allanol yma ar ein tudalennau cymorth a chefnogaeth.

A wyddech chi? Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin rwydwaith cynyddol o Ddarparwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gefnogi unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl.