Gyrru cerbydau'r gwaith

963 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'ch rôl, efallai y bydd gofyn ichi yrru cerbyd at ddibenion gwaith.

Mae cefnogaeth ac arweiniad ar gael gennym i'ch helpu cyn ichi fynd ar eich taith.

Cyn gwneud cynlluniau i deithio, ystyriwch a yw'r daith yn hanfodol a darllenwch y canllawiau diogelwch sy'n canolbwyntio ar deithio a pharcio.

Os nad ydych yn teimlo'n hyderus am ddychwelyd y tu ôl i'r llyw, siaradwch â'ch rheolwr llinell a fydd yn gallu trefnu hyfforddiant gloywi ar eich cyfer.

Cofiwch wneud y canlynol hefyd:

  • Gwiriwch fod eich trwydded yn dal yn ddilys a bod gan eich rheolwr gopi diweddar ohoni a gwiriwch fod gennych yr yswiriant perthnasol os ydych yn defnyddio cerbyd preifat.
  • Ymgyfarwyddwch â'r daith cyn mynd allan - dechreuwch drwy fynd ar rai teithiau bach yn gyntaf os yn bosib.
  • Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth am Asesu Risg ac Arferion Gweithio Diogel sy'n berthnasol ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ymgymryd ag ef. Mae hyn yn cynnwys asesiadau ychwanegol o ran COVID-19.
  • Darllenwch y canllawiau ynghylch defnyddio cerbydau'n ddiogel yn ystod COVID-19.
  • Dylech osgoi rhannu cerbydau a theithio'n annibynnol lle bo hynny'n bosibl.
  • Dylech awyru'r cerbyd drwy agor ffenestri yn ôl y gofyn.
  • Glanhewch y mannau cyffwrdd gan ddefnyddio weips neu chwistrellydd gwrthfirysol ar ddechrau ac ar ddiwedd y daith.
  • Dilynwch y rheolau penodol a nodir yn yr Asesiadau Risg a'r arferion gweithio diogel os ydych yn gweithio mewn gwasanaeth a gymeradwywyd i rannu cerbydau.
  • Cofiwch gynnal gwiriadau ar gerbydau gan ddefnyddio llyfr diffygiol y cerbyd. Bydd gan holl gerbydau'r awdurdod gofnod log dyddiol. Gwnewch wiriadau priodol o'ch cerbyd preifat os ydych yn defnyddio un, gan gynnwys edrych ar y teiars, y goleuadau, y llyw a'r breciau.
  • Defnyddiwch sbectol/lensys cyffwrdd os oes angen, ac os yw eich optegydd wedi nodi hynny.
  • Cadwch o fewn y terfyn cyflymder neu'r cyflymder priodol.
  • Mae'n anghyfreithlon yfed alcohol neu gymryd cyffuriau cyn gyrru.
  • Mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn anghyfreithlon.
  • Dilynwch unrhyw hyfforddiant ychwanegol rydych wedi'i gael ar gyfer y cerbyd rydych yn ei yrru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau teithio a pharcio