Ydych chi'n nabod eich rhifau?

970 diwrnod yn ôl

Wythnos 6-12 Medi yw 'Wythnos Nabod eich Rhifau' flynyddol Blood Pressure UK. Oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, ni fyddwn yn gallu cynnig gwiriadau pwysedd gwaed eto eleni ond rydym yn dal i'ch annog i 'Nabod Eich Rhifau'! Rydym yn canolbwyntio ar bwysedd gwaed uchel a'r cyfle euraidd i wella rheolaeth pwysedd gwaed yn awr ac yn y dyfodol.

Pwysedd gwaed uchel yw'r prif ffactor risg ar gyfer strôc ac mae'n ffactor risg sylweddol ar gyfer trawiad ar y galon, methiant y galon a chlefyd yr arennau. Ceir hefyd tystiolaeth gynyddol ei fod yn ffactor risg ar gyfer dementia fasgwlaidd. Gan mai anaml y bydd gan bwysedd gwaed uchel unrhyw symptomau, yr unig ffordd sydd gan bobl o wybod os yw'r cyflwr arnynt yw cael eu pwysedd gwaed wedi ei fesur. Mae gan tua 30 y cant o fenywod a 32 y cant o ddynion bwysedd gwaed uchel, ac mae oddeutu traean y bobl sydd â phwysedd gwaed uchel ddim hyd yn oed gwybod fod y cyflwr arnynt.

Felly hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iawn, gallai eich pwysedd gwaed fod yn uchel o hyd. Mae monitro pwysedd gwaed yn y cartref yn ffordd effeithiol a rhad o gadw llygad ar eich pwysedd gwaed a gall achub bywydau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut a pham i fonitro eich pwysedd gwaed, beth mae'r rhifau'n ei olygu, y camau nesaf a sut i ddewis peiriant ar wefan Blood Pressure UK.

Yn achos y rhan fwyaf o bobl, mae ffordd o fyw yn bwysig iawn o ran cadw eu pwysedd gwaed rhag mynd yn rhy uchel. Ewch i Sefydliad Prydeinig y Galon i gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw eich pwysedd gwaed i lawr a lleihau eich risg o glefyd cardiofasgwlaidd y galon.

I gael gwybodaeth am archwiliadau hunan-iechyd eraill, edrychwch ar ein tudalen archwiliad hunan-iechyd ar y fewnrwyd.