E-sgwrs am niwroamrywiaeth.

716 diwrnod yn ôl

Ymunwch â Corinne Cariad ddydd Mercher 8 Mehefin am 12:30 i gael cyflwyniad ar Niwroamrywiaeth. Yn ystod y sgwrs bydd hi'n rhoi trosolwg ar awtistiaeth ac Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio (ADHD) yn ogystal â sut i gefnogi cydweithwyr niwroamrywiol yn y gweithle.

Beth yw Niwroamrywiaeth?

Mae'r gair niwroamrywiaeth yn cyfeirio at "amrywiaeth pawb, ond caiff ei ddefnyddio'n aml yng nghyd-destun anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, yn ogystal â chyflyrau niwrolegol neu ddatblygiadol eraill megis Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio neu anableddau dysgu.”

Mae'r mudiad niwroamrywiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd galluogi pobl â meddyliau gwahanol yn niwrolegol i gael eu derbyn drostynt eu hunain, trwy ddarganfod a dathlu eu cryfderau a thrwy fod y gymdeithas yn gwerthfawrogi eu gwahaniaethau. Mae pobl yn profi ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas mewn sawl ffordd wahanol; nid oes un ffordd "iawn" o feddwl, dysgu ac ymddwyn.

Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn niwroamrywiaeth-gyfeillgar:

1. Gall addasiadau bach i weithfan gweithiwr i ddiwallu unrhyw anghenion synhwyraidd gynorthwyo megis;

  • Cynnig lle tawel i dorri, cyfleu synau uchel disgwyliedig (fel driliau tân) a'r defnydd o glustffonau sy'n canslo sŵn.
  • Ystyried defnyddio teganau ffidget, seibiannau symud ychwanegol a seddau hyblyg.

2. Defnyddiwch arddull cyfathrebu clir:

  • Peidiwch â defnyddio iaith goeglyd, geiriau teg, a negeseuon lle caiff yr ystyr ei awgrymu ond ddim ei fynegi'n glir.
  • Rhowch gyfarwyddiadau cryno ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer tasgau, a rhannwch dasgau'n gamau bach.
  • Rhowch wybod i bobl am ganllawiau ymddygiad yn y gweithle/yn gymdeithasol, a pheidiwch â chymryd yn ganiataol bod rhywun yn torri'r rheolau neu'n bod yn anghwrtais yn fwriadol.
  • Byddwch yn garedig, byddwch yn amyneddgar.

Drwy ddysgu mwy am niwroamrywiaeth gallwn helpu i leihau'r stigma a'r syniad bod rhywbeth 'o'i le' gyda'r person hwnnw. Gall deall a chroesawu niwroamrywiaeth mewn cymunedau, ysgolion a gweithleoedd eu gwneud yn fwy cynhwysol i bawb.

I ymuno â'r sgwrs, cliciwch ar y ddolen e-sgwrs Niwroamrywiaeth neu fel arall, clicwich yma am wahodd iCalendar Outlook neu ewch i'n tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau neu'r dudalen Beth sy 'mlaen ar y fewnrwyd. I ofyn am wahoddiad Microsoft Teams, anfonwch e-bost at y tîm Iechyd a Llesiant ar health&wellbeing@sirgar.gov.uk

Cysylltwch ag Amy Hughes (ARHughes@carmarthenshire.gov.uk) sy'n bwynt cyswllt i unrhyw un (proffesiynol neu gyhoeddus) sy'n chwilio am wybodaeth neu gymorth am Wasanaethau Awtistiaeth. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth Code of Practice on the delivery of autism services | GOV.WALES

Dolenni defnyddiol eraill. Gellir dod o hyd i wybodaeth am addasiadau rhesymol ar y tudalennau canlynol Reasonable Adjustments (Disability)

Erthygl gan: Health and Wellbeing Team