Nofio yn y Gwyllt

718 diwrnod yn ôl

‘Nofio yn y Gwyllt' yw'r grefft o nofio mewn dyfroedd naturiol megis afonydd, llynnoedd a rhaeadrau, yn ogystal â'r môr – unrhyw le heblaw pyllau nofio a wnaed gan ddyn. Mae yna rywbeth ychydig yn anturus a bywiocaol am nofio yn y gwyllt, ac mae manteision ymdrochi mewn dyfroedd naturiol o safbwynt iechyd meddwl a chorfforol wedi bod yn wybyddus ers tro byd, er enghraifft:

  • Mae ymdrochi unwaith, yn enwedig mewn dŵr oer, yn creu fasoymlediad dwys, gan ryddhau lactadau'r cyhyrau, a dod â gwaed ffres i'r traed a'r dwylo.
  • Ar ôl nofio'n rheolaidd mae proses a elwir yn ymaddasu i'r oerfel yn dechrau. Nid yn unig y mae hyn yn lleihau'r graddau y mae eich corff yn teimlo oerfel (gan wneud hyd yn oed y dŵr oeraf yn eithaf dymunol), mae profion clinigol wedi dangos ei fod yn rhoi hwb i'r system imiwnedd.
  • Mae trochfa oer hefyd yn rhoi ysgogiad seicolegol. Caiff siot endorffin bwerus ei rhyddhau ac mae hyn yn naturiol yn codi'r hwyliau, yn ysbrydoli'r synhwyrau ac yn creu awydd cryf i blymio'n ôl i mewn.
  • Nofio yn y gwyllt yw'r ffordd berffaith o uniaethu â byd natur, ceisio ysbrydoliaeth, a rhyfeddu at fawredd a harddwch y byd naturiol.

Mae cadw'n ddiogel wrth nofio yn y gwyllt o'r pwys mwyaf, felly dyma rai awgrymiadau a chynghorion ar sut i wneud hynny'n ddiogel:

  • Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun a chofiwch, os mai dyma'ch tro cyntaf, eich bod yn aros neu nofio'n agos i'r lan.
  • Camwch i'r dŵr yn raddol i weld sut y mae eich corff yn ymateb – gochelwch rhag 'sioc oerfel' a all beri i chi goranadlu.
  • Pan fyddwch chi'n dod allan o'r dŵr, gall gymryd mwy o amser nag yr ydych yn meddwl i dwymo, felly gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o ddillad yn barod, ac yn ddelfrydol ewch yn syth am dro cerdded neu redeg arall.
  • Gochelwch rhag y cerrynt - gwiriwch y llanw a'r cerrynt cyn mynd i mewn i ddŵr.
  • Peidiwch byth â neidio i mewn i ddŵr cyn gwirio ei ddyfnder, ac unrhyw rwystrau a allai fod ynddo, yn drylwyr.
  • Sicrhewch bob amser eich bod yn gwybod sut y byddwch yn dod allan cyn i chi fynd i mewn.
  • Ymunwch â chymuned gymdeithasol:

 

Erthygl gan: Tîm Iechyd a Llesiant