Mis cerdded cenedlaethol

358 diwrnod yn ôl

Cerdded yw un o'r ffyrdd hawsaf o wella ein hiechyd a chadw mewn cysylltiad â'n cymuned, gan ein helpu i deimlo'n llai unig ac ynysig. Mae cymaint o fanteision i fynd allan a cherdded gan gynnwys y rhai ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol.

Mae yna lawer o ffyrdd o gael eich camau i mewn, er enghraifft mynd allan am dro yn eich egwyl ginio, cerdded i'r siop leol yn lle gyrru, mynd allan am loncian ar ôl gwaith neu hyd yn oed gorymdeithio yn y fan a'r lle yn ystod eich cyfarfod tîm rhithwir (gwyddys ei fod yn digwydd!). Mae pob cam yn cyfrif felly byddwch mor ddyfeisgar â phosibl.

Eleni hoffem i gynifer o staff â phosibl gymryd rhan yn yr her ac felly rydym yn gwahodd staff i gymryd rhan naill ai fel tîm neu fel unigolyn. Mae nifer y staff sy'n cymryd rhan yn ein heriau cam blaenorol wedi creu argraff arnom ac rydym yn gobeithio na fydd eleni'n wahanol!

Bydd yr her fawr eleni yn dechrau ddydd Llun 15 Mai a bydd yn para tan ddydd Sul Mai 28ain. Am fwy o wybodaeth am y ple her ewch i weld yma.

Ceir chwe Gwarchodfa Natur Leol yn Sir Gaerfyrddin: Twyni Tywod a Morfa Pen-bre, y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll, Twyni Doc y Gogledd, Carreg Cennen, Glan-yr-Afon, Cydweli, a Morfa Berwig, y Bynea. Dyma ambell un o'r llefydd sy'n cael eu rheoli gan bartneriaid fel rhan o Bartneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin ichi gael eu mwynhau. Am fwy o fanylion cliciwch yma Mynd yma ac acw! (llyw.cymru)

Neu

Ewch i Cerdded yn Sir Gar - Darganfod Sir Gar am fwy o syniadau.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost at iechydallesiant@sirgar.gov.uk.

 

Erthygl gan: Health and Wellbeing team