Dilysu Aml-ffactor - Diogelu eich Data a Chyfrif Sir Gâr
27 diwrnod yn ôl
Rydym yn cymryd camau ychwanegol i ddiogelu eich cyfrif trwy ychwanegu camau i wirio pwy ydych chi.
Dilysu yw'r enw ar y broses wirio ac ar hyn o bryd mae'n cael ei gwneud gydag enw defnyddiwr a chyfrinair. Gellir darganfod enwau defnyddwyr yn hawdd, ac mae cynnydd diweddar mewn negeseuon e-bost gwe-rwydo gyda'r bwriad o ddwyn cyfrineiriau yn golygu bod risg uchel y bydd eich cyfrinair yn syrthio i'r dwylo anghywir.
Er mwyn helpu i atal seiberdroseddwyr rhag cael gafael ar eich cyfrinair a chael mynediad i'ch cyfrif rydym yn galluogi Dilysu Aml-ffactor, neu MFA.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Gwasanaethau TGCh yn troi Dilysu Aml-ffactor (MFA) ymlaen i'r holl ddefnyddwyr.
Mae Dilysu Aml-ffactor yn fwy diogel na chyfrinair yn unig gan ei fod yn dibynnu ar ddau fath o ddilysu:
- Rhywbeth yr ydych yn ei wybod - eich cyfrinair.
- Rhywbeth sydd gennych - ffôn symudol.
Gallwch gwblhau'r broses gofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost CSC a'ch cyfrinair.
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda'r ap Microsoft Authenticator ar gyfer y profiad cyflymaf a mwyaf diogel.
Drwy gofrestru ar gyfer MFA, byddwch hefyd yn gallu ailosod eich cyfrinair yn y dyfodol drwy glicio ar y ddolen "Ailosod Cyfrinair" ar sgrin fewngofnodi Windows, neu drwy fynd i dudalen Ailosod Cyfrinair Ar-lein Microsoft
Rydym wedi creu canllaw cam wrth gam i'ch arwain drwy'r broses hon.
Os nad ydych wedi cofrestru eisoes, gallwch gofrestru ar gyfer MFA heddiw i alluogi'r nodwedd hon a diogelu eich cyfrif.