Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

54 diwrnod yn ôl

Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn dechrau ar 18 Mawrth 2024, ac mae'n gyfle delfrydol i ddysgu mwy am, a dathlu, niwroamrywiaeth.

O ran cynhwysiant, mae niwroamrywiaeth yn cyfeirio at fyd lle mae gwahaniaethau niwrolegol yn cael eu cydnabod a'u parchu fel pob amrywiad dynol arall.

Yn dibynnu ar sut mae ein hymennydd wedi'i gwifrio, rydym yn meddwl, symud, prosesu gwybodaeth ac yn cyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o bobl yn ein cymuned yn defnyddio niwroamrywiaeth fel term ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio arddulliau meddwl amgen fel Dyslecsia, DCD (Dyspracsia), Dyscalculia, Awtistiaeth ac ADHD. Ond waeth beth fo'u labeli, mae niwroamrywiaeth yn ymwneud â chydnabod y rhai sy'n meddwl yn wahanol. 

Mae gan tua 15-20% o'r boblogaeth wahaniaeth niwrolegol. Yn hytrach na labelu pobl â diffygion neu anhwylderau, pan fyddwn yn defnyddio'r term niwroamrywiaeth, rydym yn cymryd golwg gytbwys ar gryfderau a heriau unigryw unigolyn.

Mae gan bob un ohonom bethau yr ydym yn naturiol dda yn eu gwneud a phethau nad ydym mor dda yn eu gwneud. Mae gweithwyr niwroamrywiol yn aml yn dod â sgiliau a thalentau unigryw i'w gwaith.

Er enghraifft, yn dibynnu ar yr unigolyn, gallent fod yn arbennig o dda yn:

  • datrys problemau
  • Meddwl rhesymegol
  • creadigrwydd
  • arloesedd
  • cysondeb
  • Meddwl y tu allan i'r bocs
  • Gweld patrymau a thueddiadau
  • Cadw gwybodaeth
  • Dadansoddi data
  • Gweld pethau o
  • persbectif gwahanol
  • sylw i fanylion

Mae nifer o ffyrdd y gallwn gefnogi unigolion niwroamrywiol o fewn ein gweithlu:-

  • Dod i adnabod yr unigolyn
  • Darparu technoleg ac offer cefnogol
  • Cyfathrebu'n glir
  • Neilltuo tasgau gwaith yn briodol
  • Ystyriwch yr amgylchedd ffisegol
  • Bod yn ddeallus ac yn empathetig
  • Codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth yn eich sefydliad
  • Meithrin lles meddyliol da

Am fwy o wybodaeth am Niwroamrywiaeth, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i wneud y gweithle yn fwy cyfeillgar i niwroamrywiaeth, ewch i'n tudalennau Niwroamrywiaeth.

Mae rhagor o adnoddau a chymorth ar gael ar dudalennau Adnoddau Dynol yn ogystal â Dysgu a Datblygu.

I gael gwybodaeth gyffredinol am iechyd a lles, gweler ein tudalennau mewnrwyd neu e-bostiwch healthandwellbeing@carmarthenshire.gov.uk