Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Cwmpas
- Beth yw absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth?
- Gofyn am gymorth
- Hawl i gael absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Faint o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth y gallwch ei gymryd
- Amseriad absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Os ydych chi'n bwriadu dechrau ar eich absenoldeb fwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth
- Os yw eich plentyn yn marw neu os bydd amhariad ar eich lleoliad mabwysiadu
- Canslo eich absenoldeb
- Newid dyddiad dechrau eich absenoldeb
- Newid eich dyddiad dychwelyd gwreiddiol
- Tâl yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Hawl i Wyliau
- Cyfraniadau Pensiwn
- Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl
- Cyswllt yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Ceisiadau am Weithio Hyblyg
- Diogelu Data
- Camddefnyddio'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth.
- Sicrhau cyfle cyfartal
Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
Rydyn ni'n cydnabod y gall dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod sylweddol o amser i ffwrdd fod yn heriol. Byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod eich cyfnod yn dychwelyd i'r gwaith mor hwylus â phosibl a bydd gwaith yn cael ei drosglwyddo yn ôl i chi yn raddol.
Mae gennych yr hawl i ddychwelyd i'r un swydd ac ar yr un telerau ac amodau os:
• rydych wedi cymryd cyfnod unigol o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth sy'n para 26 wythnos neu lai; neu
• roeddech wedi cymryd eich absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth yn olynol gyda chyfnod (neu gyfnodau) arall o absenoldeb statudol mewn perthynas â'r un plentyn, ar yr amod bod cyfanswm yr absenoldeb a gymerwyd (ac eithrio absenoldeb rhiant cyffredin) yn 26 wythnos neu lai, ac nid oedd yn cynnwys mwy na phedair wythnos o absenoldeb rhiant cyffredin.
Ym mhob achos arall, mae gennych yr hawl i ddychwelyd i'r un swydd, oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, ac yn yr achos hwnnw byddwn yn cynnig swydd amgen addas i chi ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol.
Os ydych chi'n cymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, ac yn ansicr ble rydych chi'n sefyll o ran dychwelyd i'r gwaith, cysylltwch â'ch rheolwr llinell.
Os ydych chi'n penderfynu nad ydych am ddychwelyd i'r gwaith, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig o'ch ymddiswyddiad cyn gynted â phosibl yn unol â thelerau eich contract cyflogaeth.
