Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Cwmpas
- Beth yw absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth?
- Gofyn am gymorth
- Hawl i gael absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Faint o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth y gallwch ei gymryd
- Amseriad absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Os ydych chi'n bwriadu dechrau ar eich absenoldeb fwy nag wyth wythnos ar ôl y brofedigaeth
- Os yw eich plentyn yn marw neu os bydd amhariad ar eich lleoliad mabwysiadu
- Canslo eich absenoldeb
- Newid dyddiad dechrau eich absenoldeb
- Newid eich dyddiad dychwelyd gwreiddiol
- Tâl yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Hawl i Wyliau
- Cyfraniadau Pensiwn
- Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth heb dâl
- Cyswllt yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Ceisiadau am Weithio Hyblyg
- Diogelu Data
- Camddefnyddio'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth.
- Sicrhau cyfle cyfartal
Os yw eich plentyn yn marw neu os bydd amhariad ar eich lleoliad mabwysiadu
Os byddech fel arall wedi bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth, ond mae eich plentyn hefyd yn marw (gan gynnwys baban marwanedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd) neu os bydd amhariad ar y lleoliad mabwysiadu, efallai y byddwch yn dal i allu cymryd hyd at wyth wythnos o absenoldeb heb dâl.
Mae amhariad ar leoliad mabwysiadu yn golygu pan fo plentyn yn cael ei ddychwelyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu, neu, yn achos mabwysiadu o dramor, nid yw'r plentyn yn byw gyda chi mwyach.
Os yw hyn yn berthnasol, rhaid i'ch absenoldeb ddod i ben ar ba bynnag un sy'n dod gyntaf:
• wyth wythnos ar ôl diwedd yr wythnos lle bu'r farwolaeth neu lle bu amhariad ar y lleoliad neu
• ddiwedd y cyfnod cymhwysedd o ran absenoldeb tadolaeth arferol 52 wythnos.
Cyn y gall eich absenoldeb ddechrau o dan yr adran hon, bydd angen i chi gadarnhau dyddiad a natur yr hyn sydd wedi digwydd. Cysylltwch â'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y gallwch fel y gallwn drafod eich hawl i absenoldeb a chymorth arall a allai fod ar gael.
Nid yw'r hawl hwn yn berthnasol os ydych wedi dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth o ran yr un plentyn.
