Polisi Absenoldeb Gofalwyr

Diffiniad gofalwr

Wrth ddiffinio gofalwyr, ein nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng cydnabod amgylchiadau arbennig gofalu, a pheidio â dosbarthu gofalwyr fel grŵp caeth neu ar wahân.

Rydym yn diffinio gofalwyr fel gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywyd gwaith. Mae'r gweithgareddau y mae gofalwyr yn eu cyflawni yn eang, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • cymorth gyda gofal personol.
  • cymorth gyda symudedd.
  • rheoli meddyginiaeth.
  • tasgau ymarferol yn y cartref.
  • cefnogaeth emosiynol; a
  • cymorth gyda materion ariannol neu waith gweinyddol.

Mae anghenion gofalwyr yn wahanol i anghenion gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal plant arferol, ac mae amgylchiadau a cherrig milltir gofalu yn wahanol i'r rhai sy'n gysylltiedig â gofal plant arferol. Edrychwch ar ein polisïau Absenoldeb a Gweithio Hyblyg ar gyfer opsiynau a allai eich helpu i gydbwyso gofal plant.

Mae gofalu yn gallu bod yn anrhagweladwy a pheri gofid. Gall gweithiwr dderbyn cyfrifoldebau gofalu dros nos, er enghraifft ar ôl i'w riant gael strôc, neu gall cyfrifoldebau gofalu ddatblygu dros amser, er enghraifft pan fo gan bartner y gweithiwr gyflwr iechyd hirdymor gwanychol. Gyda gofal plant arferol, mae taith y plentyn yn fwy rhagweladwy wrth iddo dyfu'n hŷn, mynd i'r ysgol a dod yn fwy annibynnol. Gall cerrig milltir gofalu fynd i'r cyfeiriad arall, er enghraifft gall rhiant oedrannus ddod yn fwy bregus ac yn fwy dibynnol dros amser, a gall plentyn anabl barhau i fod ag anghenion cymorth sylweddol pan fydd yn oedolyn.