Polisi Absenoldeb Gofalwyr

Sut y gellir cymryd absenoldeb gofalwyr?

Gellir cymryd absenoldeb gofalwyr yn hyblyg. Y gofynion allweddol yw:

  • Wrth ddefnyddio'r absenoldeb, mae'n rhaid i chi gymryd o leiaf hanner diwrnod gwaith ar y tro; ystyr diwrnod gwaith yw eich patrwm gweithio arferol. Nid oes angen i'r absenoldeb gael ei ddefnyddio ar ddiwrnodau olynol. Felly, os ydych yn gweithio'n llawn amser, gallech gymryd pum niwrnod ar wahân dros gyfnod treigl o 12 mis.
  • Mae'n ofynnol i chi roi rhybudd, er nad oes angen gwneud hyn yn ysgrifenedig. Mae'n rhaid i'r rhybudd gynnwys y ffaith bod gennych hawl i gymryd absenoldeb gofalwyr a'r diwrnod(au) neu ran o ddiwrnod a gymerir.
  • Mae'n ofynnol i chi roi rhybudd sydd naill ai ddwywaith hyd y cyfnod y gofynnir amdano, neu dri diwrnod, p'un bynnag yw'r hiraf. Gellir hepgor y rhybudd hwn drwy gydgytundeb gan eich rheolwr llinell ar yr amod eich bod fel arall yn gymwys i gymryd absenoldeb gofalwyr.