Polisi Absenoldeb Gofalwyr

Ar gyfer beth y gellir defnyddio absenoldeb gofalwyr

Gellir defnyddio absenoldeb gofalwyr ar gyfer angen gofal hirdymor. Mae gan ddibynnydd angen gofal hirdymor:

  • os oes ganddo salwch neu anaf (boed yn gorfforol neu'n feddyliol) sy’n gofyn, neu'n debygol o ofyn, am ofal am fwy na thri mis.
  • os oes ganddo gyflwr sy'n gyfystyr ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; neu
  • os oes angen gofal arno am reswm sy'n gysylltiedig â'i henaint.

Mae'r hawl statudol hon i absenoldeb gofalwyr yn berthnasol i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gofalu, ond nid yw'n cynnwys gofal plant cyffredinol, ac eithrio pan fydd eich plentyn yn bodloni'r diffiniad o ddibynnydd sydd ag angen gofal hirdymor.

Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu byrdymor, cyfeiriwch at bolisïau a gweithdrefnau Absenoldeb a Gweithio Hyblyg yr Awdurdod. Bydd hyn yn darparu opsiynau eraill, e.e., gwyliau blynyddol, amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion, ac ati.