Canllawiau ar Ddethol wrth Ddileu Swyddi - Awst 2026

3. Carfan i Ddethol Ohoni

Bydd yr Awdurdod yn nodi yn achos faint o rolau mae risg dileu swyddi, a bydd yn pennu carfan y dewisir y gweithwyr ohoni. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod y garfan i ddethol ohoni wedi cael ei diffinio'n deg. Fel arfer, bydd y garfan yn cynnwys gweithwyr sy'n cyflawni'r un gwaith, neu waith tebyg, ac sy'n cyflawni swyddi y gellir eu cyfnewid, boed hynny o fewn yr un adran neu leoliad, neu'r un patrwm gwaith/shifftiau neu beidio. Wrth benderfynu ar y garfan ar gyfer dileu swyddi, bydd yr Awdurdod yn rhoi sylw i amgylchiadau megis:

  • Y gwaith y mae gweithwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd;

  • Agosrwydd safleoedd/canolfannau; a

  • Ble mae gweithwyr yn cyflawni eu gwaith yn rheolaidd.

O dan rai amgylchiadau, ni fydd yn briodol pennu carfan o weithwyr i ddewis ohonynt ar gyfer dileu swyddi, er enghraifft lle nad effeithir ond ar rôl un gweithiwr, neu lle bydd y gwasanaeth cyfan yn dod i ben.