Canllawiau ar Ddethol wrth Ddileu Swyddi - Awst 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Dull Dethol
- 3. Carfan i Ddethol Ohoni
- 4. Meini Prawf Dethol
- 5. Cymhwyso'r Meini Prawf Dethol
- 6. Sgorio a Phwysoli
- 7. Llunio Asesiad Annibynnol
7. Llunio Asesiad Annibynnol
Ar ôl nodi'r rheolwyr a fydd yn ymwneud â'r broses ddethol ar gyfer dileu swyddi, cyflwynir copïau o'r meini prawf dileu swyddi a'r matrics sgorio, a bydd yn ofynnol i reolwyr lunio asesiadau annibynnol o bob gweithiwr yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arnynt.
Dylai rheolwyr ystyried manylion penodol y meini prawf a dod i benderfyniadau, ar sail tystiolaeth, ynghylch y sgôr a bennir i weithiwr.
Wrth ddod i benderfyniadau ynghylch perfformiad, dylid edrych ar y dogfennau arfarnu/adolygu, a mesur perfformiad yn erbyn y targedau. Os daw'n amlwg, yn ystod y broses ddethol, fod cofnodion perfformiad un neu fwy o weithwyr yn anghyflawn, dylid tynnu'r meini prawf perfformiad o blith y meini prawf dethol.
Os yw gwybodaeth a sgiliau yn cael eu defnyddio'n feini prawf dethol, dylid nodi'r gofynion penodol yng nghyswllt y meysydd hynny ar ddechrau'r broses, fel bod modd dod i benderfyniadau teg a chyson ynghylch gweithwyr unigol.
