Canllawiau ar Ddethol wrth Ddileu Swyddi - Awst 2026
Yn yr adran hon
4. Meini Prawf Dethol
Ar ôl i'r Awdurdod benderfynu ar y garfan i ddethol ohoni, bydd yn defnyddio meini prawf i benderfynu pa weithwyr o blith y garfan honno allai gael eu dewis ar gyfer dileu eu swyddi. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, bod y meini prawf a ddefnyddir yn wrthrychol, yn yr ystyr nad ydynt wedi'u seilio ar farn oddrychol yr unigolion sy'n defnyddio'r meini prawf.
Bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i ddefnyddio meini prawf sy'n fesuradwy ac y gellir eu cefnogi â chofnodion dogfennol, data, neu dystiolaeth arall, er enghraifft presenoldeb, arfarnu perfformiad a chofnodion goruchwylio (lle bo hynny'n briodol), cofnodion galluogrwydd neu ddisgyblu ac ati.
Mewn sefyllfaoedd lle bydd nifer o swyddi yn cael eu dileu, bydd y meini prawf dethol a'r pwysoliad yn cael eu llunio mewn ymgynghoriad â'r Undebau Llafur cydnabyddedig, a chytunir arnynt gyda'r Cyfarwyddwr perthnasol (neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo) a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo). Wrth gytuno ar feini prawf, rhaid sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.
Mae rhai meini prawf dethol yn annheg yn awtomatig. Ni fydd yr Awdurdod yn dethol gweithiwr ar gyfer dileu swyddi ar sail unrhyw un o'r rhesymau canlynol:
Beichiogrwydd, gan gynnwys pob rheswm sy'n ymwneud â mamolaeth.
Teulu, gan gynnwys absenoldeb rhiant, absenoldeb tadolaeth (geni a mabwysiadu), absenoldeb mabwysiadu neu amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion.
Gweithredu fel cynrychiolydd gweithwyr.
Gweithredu fel cynrychiolydd undeb llafur.
Ymuno ag undeb llafur neu beidio â gwneud hynny.
Bod yn weithiwr rhan-amser neu gyfnod penodol.
Oedran , anabledd, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw a cyfeiriadedd rhywiol.
Tâl ac oriau gwaith, gan gynnwys Rheoliadau Amser Gweithio, gwyliau blynyddol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mynnu hawl statudol.
Bydd y meini prawf dethol a ddefnyddir gan yr Awdurdod yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys anghenion y gwasanaeth ar y pryd a'r rolau sydd o dan sylw.
Yn y rhestr ganlynol ceir enghreifftiau o'r meini prawf y gall yr Awdurdod eu defnyddio:
Presenoldeb: Er mwyn penderfynu ar gofnod presenoldeb gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar gofnodion presenoldeb yn y 3 blynedd hyd at ddechrau'r ymgynghoriad ar ddileu swyddi. Ni fydd yr Awdurdod yn rhoi sylw i absenoldebau oherwydd beichiogrwydd, mamolaeth, absenoldeb arall am resymau teuluol nac anabledd.
Disgyblu: Er mwyn penderfynu ar gofnod disgyblu gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn chwilio yn y cofnodion personél am rybuddion ffurfiol a phryderon disgyblu anffurfiol a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y Polisi Disgyblu.*
Cofnodion Galluogrwydd: Er mwyn penderfynu ar gofnod galluogrwydd gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn chwilio yn y cofnodion personél am nodiadau gwella ffurfiol a phryderon galluogrwydd a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y Polisi Galluogrwydd.*
Perfformiad yn y Swydd: Er mwyn penderfynu ar gofnod perfformiad gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar ddogfennau arfarnu a chofnodion goruchwylio (lle bo hynny'n briodol).
Gwybodaeth a sgiliau perthnasol: Bydd yr Awdurdod yn ymgymryd ag archwiliad gwybodaeth a sgiliau oddi mewn i'r garfan a sefydlwyd, sy'n berthnasol i rôl y swydd, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid a'r Awdurdod.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol: Er mwyn penderfynu ar gofnod cymwysterau a hyfforddiant perthnasol gweithiwr, bydd yr Awdurdod yn edrych ar ffeiliau personél a chofnodion Dysgu a Datblygu. Gellir nodi hyn trwy archwiliad sgiliau hefyd.
Hyd y cyfnod gwasanaeth (fel un o nifer o feini prawf yn unig, ac ar ôl cwblhau’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb).
Pennir y meini prawf dethol penodol a ddefnyddir, yn dibynnu ar unrhyw ofynion busnes perthnasol, ar y pryd, gan roi sylw i unrhyw angen am gadw gwybodaeth benodol, sgiliau a gweithlu cytbwys.
(* Sylwer: Gall pryderon disgyblu/galluogrwydd a gofnodwyd trwy gamau anffurfiol/ffurfiol y polisïau Disgyblu/Galluogrwydd fod ar ffurf llythyron neu nodiadau at unigolion; nodiadau ffeiliau; nodiadau dyddiadur neu gofnodion cyfarfodydd. Nid yw digwyddiadau nad oes cofnod ysgrifenedig ar eu cyfer yn ddigonol. Ni ddefnyddir cofnodion digwyddiadau na chawsant eu codi erioed gyda'r unigolyn dan sylw).
