Rheolau a Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2025
Mae ein Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau wedi eu hysgrifennu i osod rheolau clir o ran caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith, fel bod modd inni gael y gwerth gorau am arian ac, ar yr un pryd, sicrhau system o fod yn agored ac yn dryloyw ac o beidio â gwahaniaethu lle nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch atebolrwydd y broses gaffael.
Rydym yn cael eu rheoli gan Ddeddf Caffael 2023 sy'n sicrhau bod y broses caffael cyhoeddus yn dryloyw, yn deg ac yn gystadleuol sy'n creu cyfleoedd busnes, yn hybu twf economaidd ac yn creu swyddi.
Mae Deddf Caffael 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor hysbysebu pob cyfle caffael dros drothwyon penodol ar wasanaeth e-hysbysu'r DU o'r enw Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr, ac yng Nghymru gwneir hyn drwy borth GwerthwchiGymru.
Gwerth trefniant prynu yw gwerth oes gyfan y contract, nid y gwerth blynyddol yn unig ac mae'n rhaid cwmpasu'r holl gontractau at yr un diben. Mae hyn yn golygu na cheir rhannu contractau'n gontractau llai i osgoi'r rheoliadau hyn.
Daeth y gwerthoedd presennol i rym ar 1af Ionawr 2024 (ON: Mae'r rhain yn CYNNWYS TAW) ac maent fel a ganlyn:
- Contractau Cyflenwadau (Nwyddau) £214,904
- Contractau Gwasanaethau £214,904
- Contractau Gwaith Adeiladu a Pheirianneg £5,372,609
- Gwasanaethau llai manwl (cymdeithasol a thebyg) £663,540
Mae'r rheolau newydd yn ceisio gofalu bod contractau caffael yn agored i atebion mwy arloesol er mwyn sicrhau bod yr arian sy'n mynd i gaffael yn cael ei wario mewn modd sy'n ysgogi datblygu. Bydd y rheolau hefyd yn lleihau biwrocratiaeth i gwmnïau sy'n cyflwyno cynigion a'i gwneud yn haws i gwmnïau bach a chanolig gymryd rhan.
Caffael
Mwy ynghylch Caffael