Codi anfoneb dyledwr

Diweddarwyd y dudalen: 07/01/2026

Mae'r system EDIRF bellach wedi'i rhoi i ben. Mae unigolion bellach yn codi pob Gorchymyn Gwerthu (anfonebau dyledwyr) drwy Unit4 ERP WEB. Cysylltwch â FI Sundry Debtors am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â'ch BSU am gymorth.

Codi Archebion Gwerthiant

Dangosyddion TAW

Dylid defnyddio Dangosyddion TAW ar bob cais am anfoneb. Mae’n rhaid ichi gynnwys un dangosydd TAW am bob eitem yr anfonebir amdani 

Côd Math o Ddangosydd TAW
S TAW yn ôl y Gyfradd Safonol o 20%
N TAW yn ôl cyfradd o 0%, Gweithgareddau Heblaw Busnes
X Wedi’i Eithrio Rhag TAW
IR Yn cynnwys TAW yn ôl cyfradd o 5% ar Danwydd
IS Yn cynnwys TAW yn ôl y Gyfradd Safonol
RE Taliadau Trydan Nad Ydynt yn Cynnwys TAW
Z Cyfradd Sero

Canslo cais i godi anfoneb dyledwyr

Os oes arnoch angen canslo eich cais cwblhewch ffurflen i ofyn am ganslo (.doc) yn llawn a’i dychwelyd trwy’r e-bost i FI Sundry Debtors. Sicrhewch fod copi o’r neges e-bost yn cael ei hanfon at eich Rheolwr Cyllideb er mwyn i’r cais gael ei awdurdodi.  

Ni fyddir yn gweithredu ar unrhyw geisiadau os nad oes copïau ohonynt yn cael eu hanfon at eich Rheolwr Cyllideb. Nid yw’n ofynnol i Reolwyr Cyllidebau ymateb oni bai fod unrhyw ymholiadau neu faterion.