Iechyd a Diogelwch
Diweddarwyd y dudalen: 16/01/2025
Mae Iechyd a Diogelwch yn effeithio ar bob agwedd ar eich gwaith. Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn nodi bod yn rhaid inni sicrhau eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles tra byddwch yn y gwaith. Mae cyfrifoldeb arnoch chi hefyd i ofalu am eich iechyd a'ch diogelwch chi eich hunan yn ogystal â phobl eraill yr ydych yn gweithio gyda nhw.
I sicrhau bod hyn yn digwydd mae angen ystyried y ffactorau canlynol:
Polisïau, gweithdrefnau, cyfarwyddyd, peryglon, risgiau, dulliau rheoli, systemau gweithio diogel, rhoi gwybod am ddamweiniau, archwiliadau, a monitro ac adolygu iechyd a diogelwch.
Rydych yn rhan bwysig o'r meysydd uchod i gyd. Rydym yn eich annog i gymryd rhan a rhoi adborth i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i bob agwedd ar iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw eich cyfrifoldebau penodol o ran iechyd a diogelwch. Trafodwch hyn â'ch rheolwr llinell.
Iechyd a Diogelwch
Mwy ynghylch Iechyd a Diogelwch