Newyddion Diweddaraf Iechyd a Diogelwch
Diweddarwyd y dudalen: 16/04/2024
Newyddion Cyfredol
Mae gennych gyfrifoldeb i roi gwybod i'ch rheolwyr llinell am bob damwain / digwyddiad cyn gynted â phosibl ar ôl iddo ddigwydd. Mae gan eich rheolwr llinell gyfrifoldeb i nodi eich damwain/digwyddiad ar y system rhoi gwybod ar-lein, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i'w atal rhag digwydd eto.
Dyma enghreifftiau o ddamweiniau / digwyddiadau:
- Ymosodiadau ar lafar, ymddygiad bygythiol neu frawychus. Nid yw'r digwyddiadau hyn byth yn 'rhan o'r swydd' a dylech roi gwybod i'ch rheolwyr llinell am hyn BOB
- Ymddygiad ymosodol, bygythiol neu frawychus mewn modd nad yw ar lafar megis ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bost, dylid rhoi gwybod i'ch rheolwr llinell am y rhain hefyd a'u cofnodi fel ymddygiad ymosodol ar lafar.
- Llithro, baglu a chwympo - os nad oes unrhyw anafiadau dylid eu cofnodi fel 'damwain a fu bron â digwydd', drwy wneud hyn mae'n caniatáu i'ch rheolwr llinell fod yn ymwybodol o'r mater e.e. llawr gwlyb, a chymryd camau i atal rhywun arall rhag llithro a fydd yn arwain at anaf.
- Mân anafiadau yn y gwaith - weithiau nid yw'r rhain yn cael cofnodi gan mai cleisiau neu friwiau bach ydynt yn unig ond gallai'r rhain fod â'r potensial i achosi anaf mwy difrifol felly dylid rhoi gwybod amdanynt.
- Camddefnyddio offer - gallai hyn olygu nad yw'r offer yn addas ar gyfer y swydd neu fod angen hyfforddiant ychwanegol o ran ei ddefnyddio.
A oeddech chi'n gwybod - Mae rhoi gwybod am ‘ddamweiniau a fu bron â digwydd' yr un mor bwysig â rhoi gwybod am ddamwain sydd wedi arwain at anaf. Damweiniau a fu bron â digwydd yw unrhyw ddigwyddiadau sydd â'r potensial i arwain at anaf neu afiechyd.
OS NAD YDYCH YN SIŴR A DDYLECH ROI GWYBOD AM DDAMWAIN NEU DDIGWYDDIAD SIARADWCH Â'CH RHEOLWR LLINELL.
Mae aflonyddu a bwlio gan unrhyw un yn annerbyniol ar unrhyw ffurf ac ni fyddant yn cael eu goddef gennym ni. Gellir cyfeirio digwyddiadau aflonyddu neu fwlio at yr heddlu. Bydd rhai agweddau ar aflonyddu a bwlio wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y Ddeddf Cydraddoldebau a’r nodweddion gwarchodedig sydd wedi’u cynnwys ynddi.
Mae aflonyddu a bwlio’n digwydd pan fo rhywun yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu ei fychanu drosodd a throsodd ac yn fwriadol gan unigolyn neu grŵp o unigolion oherwydd y gwaith y mae’n ei wneud, e.e. defnyddwyr gwasanaethau neu eu teuluoedd, aelodau o’r cyhoedd neu bobl sy’n cael gwasanaethau’r Cyngor.
Mae asesiad risg cyffredinol ar gyfer aflonyddu rhywiol wedi'i ddatblygu a dylai Rheolwyr sicrhau eu bod yn cynnwys unrhyw risgiau penodol yn eu gwasanaeth yn eu hasesiadau risg gweithgaredd a chymryd unrhyw gamau rhesymol i atal y cyfle i aflonyddu rhywiol i weithwyr o ffynonellau mewnol ac allanol.
Dylid cyfeirio achosion mewnol o aflonyddu a bwlio at y weithdrefn Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle a’r Weithdrefn Gwyno, a chyda chymorth ac arweiniad gan Rheoli Pobl (Swyddogion Adnoddau Dynol).
Iechyd a Diogelwch
Mwy ynghylch Iechyd a Diogelwch