Trawsnewid
Diweddarwyd y dudalen: 18/09/2025
Trawsnewid – Ein Gweledigaeth
‘Creu newid mewnol sylweddol a chyflym dros gyfnod o 5 mlynedd fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion yn llwyddiannus fel y’u hamlinellir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.’
Mae ein Rhaglen Drawsnewid yn rhaglen waith uchelgeisiol a chyffrous sydd â'r nod o barhau i foderneiddio a gwella'r ffordd rydym yn cefnogi ein nod o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac effeithlon, gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Ei nod yw caniatáu i'r Cyngor:
- Fod yn sefydliad modern, blaengar a deinamig.
- Sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy.
- Datblygu gweithlu medrus a hyblyg a dod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
- Darparu gwasanaethau mwy pwrpasol, o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid am lai o gost i’r Cyngor.
Mae Strategaeth Drawsnewid y Cyngor yn darparu'r fframwaith strategol ar gyfer cyflawni'r rhaglen hon a'i nod yw creu'r newid mewnol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.
Trosolwg o'r Rhaglen Drawsnewid
Prif nod y Strategaeth Drawsnewid yw 'darparu fframwaith strategol i gynnal rhaglen o newid sefydliadol o bwys fydd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach fel y’u cyflwynir yn ei Strategaeth Gorfforaethol’.
Mae'r Strategaeth yn cynnwys wyth blaenoriaeth thematig. Mae wyth Ffrwd Waith yn goruchwylio rhaglen waith gyda'r nod o helpu i gyflawni'r blaenoriaethau thematig hyn.
Mae Bwrdd Trawsnewid, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr, yn cyfarfod bob chwarter i fonitro cynnydd a chyflawni'r Rhaglen Drawsnewid.
Mae'r Tîm Trawsnewid yn helpu i gydgysylltu gwaith y ffrydiau gwaith thematig ac yn darparu'r gallu i helpu i weithredu gweithgareddau trawsnewid a newid ar draws y Cyngor.