Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 20/11/2023

Rhodri Griffiths – Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd

Cefnogi’r Cyngor i greu newid trawsnewidiol i gefnogi amcanion a thargedau datgarboneiddio a bioamrywiaeth allweddol.

  • Cefnogi ymateb yr Awdurdod i newid hinsawdd a’r argyfwng natur.
  • Cefnogi’r gwaith o adnabod a chyflawni arbedion carbon a chamau gwella natur ar lefel gorfforaethol a gwasanaethau unigol.
  • Gweithredu’n hyrwyddwyr ar gyfer datgarboneiddio a chyfoethogi bioamrywiaeth mewn cynlluniau, rhaglenni, prosiectau ac ymyriadau eraill a wneir mewn gwasanaethau unigol.
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer arbedion carbon trwy gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
  • Adnabod rhwystrau rhag cyrraedd targed sero net.
  • Annog staff i feddwl yn fwy blaengar am waith comisiynu a chaffael a herio’r ffyrdd presennol o weithio.
  • Argymell camau fydd yn datgarboneiddio stad yr Awdurdod.
  • Gweithio gyda phartneriaid a dylanwadu arnynt, gan gynnwys sefydliadau rhanbarthol a llywodraeth i gymryd camau sy’n datgarboneiddio’r sector cyhoeddus.
  • Cysoni gweithgarwch ar draws yr Awdurdod.
  • Adnabod cyfleoedd o fewn cylch gorchwyl yr Awdurdod i leihau ein hôl troed carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.
  • Datblygu cyfleoedd i weithio gyda staff, partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a’r cyhoedd sy’n arddangos ein hymrwymiad ac yn annog newid dulliau teithio

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud

Llythrennedd Carbon
  • Rydym wedi hwyluso hyfforddiant i Aelodau Etholedig.
  • Rydym wedi cynnal dadansoddiad o'n defnydd o garbon ac wedi sefydlu taflwybrau lleihau carbon.
  • Rydym yn llunio Cynllun Carbon Sero Net gyda mapiau llwybrau
Llunio Strategaeth Ddatgarboneiddio
  • Mae strategaeth ddrafft wedi'i llunio a gofynnwyd i adrannau ddarparu adborth.
Llunio Cynllun Bioamrywiaeth
  • Yn dilyn gweithdy gyda'r Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ar Newid Hinsawdd a Natur lluniwyd cynllun Bioamrywiaeth.
  • Bydd y cynllun yn cael ei ymgorffori yn y Strategaeth Ddatgarboneiddio.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.