Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad

Diweddarwyd y dudalen: 09/04/2024

Yn dilyn ymgysylltiad helaeth Llif Gwaith y Gweithlu Trawsnewid â rheolwyr gwasanaeth, Penaethiaid Gwasanaeth a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol ar alluogi gweithlu hyblyg, mae'n amlwg bod fframwaith cyflogaeth priodol ar waith, y gellir ei 'hyblygu' i helpu gwasanaethau i gyflawni mewn ffordd ddynamig.

Canfuwyd bod anghysondeb ar draws y sefydliad o ran dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r fframwaith cyflogaeth hwn i hwyluso gweithlu hyblyg a deinamig.Yr allwedd bob amser yw ymgysylltu'n gynnar â'ch cynlluniau darparu gwasanaeth a'ch gweithlu gyda'ch Partneriaid Busnes Arweiniol/Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol fel y gellir trafod a chytuno ar atebion a hyblygrwydd priodol sy'n galluogi eich cynlluniau darparu gwasanaeth ac yn cadw'r Awdurdod o fewn terfynau statudol.

Isod fe welwch fanylion ynghylch sut y gellir defnyddio'r fframwaith i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd allweddol a godwyd yn y trafodaethau.

  • Proffiliau Swyddi – Mae'r rhain wedi'u cynllunio gennych chi fel rheolwr ac felly gallwch chi fod yn hyblyg o ran y dull o ddarparu gwasanaethau yn y proffil swydd i gefnogi hyblygrwydd y gwasanaeth.  Gellir gwneud hyn pan fydd rôl yn dod yn wag neu mewn ymgynghoriad â gweithiwr neu dîm i sicrhau bod eu proffil swydd yn adlewyrchu'r rôl y mae'n ofynnol iddynt ei chyflawni. Gall timau Adnoddau Dynol a Gwerthuso Swyddi gynnig cyngor.

Templed Proffil Swydd

Sut I Ysgrifennu Proffil Swydd

  • Mae proffiliau swyddi yn ddynamig a dylid eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rôl a'r busnes. Dylid adolygu hyn o leiaf bob blwyddyn fel rhan o'ch sgwrs arfarnu gydag aelodau'r tîm. Dylai unrhyw addasiadau i broffil swydd gael eu gwerthuso gan y tîm Gwerthuso Swyddi i sicrhau bodd y raddfa'n briodol. Os yw rheolwr o'r farn bod gradd rôl yn rhy isel o gymharu â rôl arall, gall y tîm Gwerthuso Swyddi roi cyngor a chymorth ar wahaniaethau allweddol a nodweddion tebyg i reolwyr cymorth wrth adolygu proffil swydd. Os yw gweithiwr yn codi achwyniad mewn perthynas â'i radd, darllenwch yr canllawiau mewn perthynas ag achwyniadau ynghylch graddau swyddi.


Canllaw Achwyniadau Ynglyn a Graddio Swydd

Arfarniadau - Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd

  • Os ydych wedi sicrhau hyblygrwydd mewn proffiliau swyddi ac mae gweithiwr yn deall ac wedi derbyn cwmpas hyblygrwydd y gwasanaeth a ddisgwylir, fel rheolwr gallwch roi dyletswyddau eraill i staff neu eu symud i leoliadau eraill i gefnogi darparu gwasanaethau yn ôl yr angen. Sicrhewch pan ofynnir i staff weithio'n hyblyg mewn lleoliadau eraill, eu bod yn cael eu talu ar eu cyfradd parhaol ar gyfer gwaith ychwanegol/amgen ac nid ar waelod y radd. Os bydd gweithwyr yn dewis gwneud cais am swydd ychwanegol, byddant yn cael eu talu yn unol â chanllawiau cyflog recriwtio sydd fel arfer ar waelod y radd. Gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol yn ôl yr angen.
  • Mae llwyfan recriwtio Oleeo yn cael ei gyflwyno i'r sefydliad ac mae rheolwyr sy'n recriwtio nifer uchel o staff yn cael eu gwahodd i sesiynau hyfforddi. Rhagwelir y bydd y platfform hwn yn datrys llawer o'r pryderon a amlygwyd yn yr adolygiad gweithlu hyblyg a dynamig mewn perthynas ag oedi canfyddedig yn y broses recriwtio. Bydd y system newydd yn gallu monitro cynnydd a bydd rheolwyr yn gallu gweld ble mae eu swydd yn y broses recriwtio.

 

  • Mae ysgrifennu hysbysebion effeithiol i helpu i recriwtio'r bobl gywir y tro cyntaf yn bwysig, ac mae canllawiau i'ch helpu o ran hyn o beth wedi'u cynnwys yn OleeoMae'r Tîm Recriwtio wrthi'n datblygu Ymgynghorwyr Recriwtio a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar ymgyrchoedd recriwtio penodol a chysylltu â'r Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol i gael cymorth lle bo hynny'n briodol.

Canllawiau recriwtio Oleoo

  • Mae llawer o wahanol fathau o gontractau/newidiadau ar gael i gefnogi hyblygrwydd yn y tymor byr a'r tymor hir; secondiad, mynegiannau o ddiddordeb, honoraria, dyletswyddau uwch, oriau blynyddol, swyddi hyblyg sy'n cefnogi cyflenwi o gronfa. Mae'r manylion, gan gynnwys manteision pob un, ynghyd â'r llwybr o ran recriwtio i'r swyddi hyn, ar gael yma.

  • Siaradwch â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol i gael cyngor ar ba fath o gontract sy'n addas i anghenion eich gwasanaeth.

Mae'r eithriadau o ran caniatâd i recriwtio a'r broses ar gyfer caniatâd i recriwtio y tu allan i'r broses recriwtio. Prosesau rheoli corfforaethol yw'r rhain. Dylid tynnu sylw eich Pennaeth Gwasanaeth/Cyfarwyddwr at unrhyw bryderon mewn perthynas â chaniatâd i recriwtio neu eithriadau.

  • Gellir ystyried contractau cynnydd/gyrfa i gefnogi cynllunio gweithlu'r gwasanaeth ac fel cymhelliant recriwtio a chadw ar gyfer ymgeiswyr a gweithwyr. Fodd bynnag, er mwyn diogelu'r awdurdod rhag risg cyflog cyfartal, rhaid nodi'r rhain fel camau i liniaru risg y gweithlu o fewn eich cynllun gweithlu a chytuno ar y cychwyn drwy Adroddiad Swyddog Dirprwyedig y cytunwyd arno gyda'ch cyfarwyddwr oherwydd y goblygiadau o ran pobl ac arian.
  • Dylai fod paramedrau clir a gwrthrychol ar gyfer symud ymlaen o un radd i radd arall

Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth

  • Mae'r Academi Gofal yn enghraifft o lwybr dilyniant gyrfa. Gall gweithwyr ddechrau ar Lefel 2 ar Radd B gan wybod os ydynt yn aros gyda'r cyngor y gallant symud ymlaen trwy'r rhaglen a'r graddau cyflog, ynghyd â gweithio tuag at gwblhau gradd mewn gwaith cymdeithasol wedi'i hariannu'n llawn, gyda'r posibilrwydd o gael rôl Gradd I am o leiaf 3 blynedd ar ôl ei chwblhau.

Academi Gofal

  • Anogir pob adran i ymgysylltu â'r adnoddau cynllunio'r gweithlu sydd ar gael ar y fewnrwyd a siarad â'u Partner Busnes Adnoddau Dynol Arweiniol i gael cyngor.

 

  • Mae Polisi Cyfnod Prawf diwygiedig - cofiwch nad oes angen i chi aros tan gyfarfod cyfnod prawf cyn codi pryder gyda gweithiwr newydd.  Os oes gennych bryderon ynghylch perfformiad a/neu bresenoldeb gweithiwr, dylech drafod y manylion gyda'ch partneriaid busnes Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl i gytuno ar y camau gorau ym mhob achos.  Byddwch hefyd yn derbyn Rhybuddion Busnes ar gyfer Rheolwyr sy'n eich annog i weithredu ar gerrig milltir allweddol yn y weithdrefn.

Polisi cyfnod prawf

  • Fel nodyn atgoffa, os oes gennych bryder am absenoldeb salwch yn ystod cyfnod prawf, caiff hyn ei reoli drwy'r polisi cyfnod prawf ac nid y polisi absenoldeb salwch.
  • Gall yr holl reolwyr ac unedau cymorth busnes adrannol gynnal ystod o adroddiadau pobl y swyddi sy'n atebol iddynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan ddefnyddio Gwasanaethau Adrodd ResourceLink. Gweler canllawiau Gwasanaethau Adrodd ResourceLink ar y fewnrwyd.

Canllawiau Gwasanaethau Adrodd ResourceLink ar gyfer rheolwyr

  • Edrychwch ar ein tudalennau mewnrwyd wedi'u hadnewyddu sy'n darparu ein polisïau a'n canllawiau ar ystod o bynciau.

 

  • Mae ein polisïau corfforaethol yn darparu'r ffiniau o fewn fframwaith deddfwriaethol ac arfer da. Os oes gennych sefyllfa wahanol, trafodwch hyn gyda'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol a all gynghori ar amrywiadau neu atebion posibl o fewn fframwaith polisi. e.e. daw cyllid grant munud olaf ar gael ym mis Tachwedd ond rhaid ei ddefnyddio erbyn 31 Mawrth – yn dibynnu ar yr amgylchiadau efallai y bydd polisïau yn cael eu 'hyblygu' gyda chyngor cyflogaeth priodol.

Gweithio i ni

Iechyd Galwedigaethol

Cwestiynau Cyffredin Rheolwyr

Adnoddau Dynol

Iechyd a Diogelwch

  • Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen sefydlu rheolwyr i ategu'r cyfnod sefydlu gweithwyr a'r Academi Arweinyddiaeth a lansiwyd yn ddiweddar. Bydd hyn yn darparu llwybr i reolwyr newydd i'w cefnogi i ddeall eu cyfrifoldebau newydd a sut y gallant gael mynediad at ddatblygu sgiliau i gefnogi'r gwaith o rheoli pobl o ddydd i ddydd. Cadwch lygad allan am gylchlythyr yn y dyfodol i gael rhagor o wybodaeth.

Dysgu a Datblygu 

Academi Arweinyddiaeth