Ail-ddylunio'r weithfan, Tŷ Elwyn.

Diweddarwyd y dudalen: 06/03/2024

  

Mae cynllun rhesymoli peilot llwyddiannus eisoes wedi'i gynnal gyda staff Tai ac Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli. Mae staff Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli yn gweithio gyda'i gilydd ar un llawr o Dŷ Elwyn ac mae staff Tai o Borth y Dwyrain wedi'u lleoli ar lawr arall ochr yn ochr â staff Iechyd yn Nhŷ Elwyn, Llanelli.

Roedd ail-ddylunio'r weithfan yn ôl anghenion gwasanaeth yn golygu bod y timau'n gweithio ar draws 2 lawr gyda 315 o staff yn gweithio o 120 o ddesgiau, gyda chyfleusterau cyfarfod gwell a gweithfannau hyblyg. Bellach gellir defnyddio'r model hwn ar draws yr awdurdod ond bydd yn cael ei addasu i adlewyrchu'r ffordd y mae pob gwasanaeth yn gweithio gan ein bod yn cydnabod nad yw pob tîm yn gweithio yn yr un ffordd.

Ty Elwyn, Llanelli, chyfleusterau cyfarfod gwell a gweithfannau hyblyg