Gweithle

Diweddarwyd y dudalen: 04/08/2023

Jake Morgan - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedau

Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan symud at weithio hybrid ac ad-drefnu ymhellach bortffolio adeiladau’r Cyngor a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith yn yr adeiladau craidd eraill.

  • Cryfhau trefniadau rheoli asedau’r Awdurdod er mwyn cefnogi amcanion ariannol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.
  • Egluro gweledigaeth yr Awdurdod ynghylch yr adeiladau fydd eu hangen i’r dyfodol a gwella rheoli perfformiad asedau. Defnyddio a gwreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy yn y ffordd yr ydym yn cynllunio, darparu a monitro’r gwaith o reoli asedau.
  • Goruchwylio’r gwaith o gyflwyno cynllun rhesymoli adeiladau er mwyn lleihau’r portffolio gan hyd at 50%, lleihau costau cynnal a chadw a chyfleustodau adeiladau: a mwy o bwyslais ar drosglwyddo asedau ac effeithlonrwydd ynni.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda rheolwyr, staff ac undebau llafur i greu gweithleoedd cynhwysol sy’n cefnogi llesiant staff a darparu gwell gwasanaethau. Bydd gweithleoedd yn gyson, byddant yn cynnwys y cyfarpar angenrheidiol ac yn gymwys i’w pwrpas. Cefnogi symudiad at fwy o bobl yn gweithio o bell, a’u helpu i adeiladu ar gynnydd a wnaed yn ystod y pandemig a chael gwell dealltwriaeth o fuddion gweithio o bell.
  • Cryfhau gwaith rheoli a chynnal a chadw parhaus ar adeiladau i sicrhau bod cyfleusterau’n cael eu darparu mewn ffordd gost effeithlon a chynaliadwy tra’n cwrdd ag anghenion defnyddwyr yr adeilad.
  • Sicrhau y datblygir strategaethau a chynlluniau i gefnogi datblygu cynaliadwy a chyfrannu at dargedau Carbon Sero Net. Annog a grymuso staff i fod yn flaengar wrth gymudo i’r gweithle ac wrth deithio fel rhan o’u gwaith beunyddiol.
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus ehangach, trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i wneud y defnydd gorau o adnoddau ar draws sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin.
  • Cynnig dewis a chyfle i staff fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol a hyrwyddo cydbwysedd da rhwng gwaith/bywyd a llesiant. Sicrhau bod systemau adeiladau a thechnolegau ar gael i staff i gefnogi’r model gweithio hybrid hwn.

Wrth i weithio hybrid gynyddu mae angen mwy a mwy o wahanol fathau o leoedd i gwrdd, gweithio a chydweithio ar staff.


Yn dilyn ymgynghoriad ynghylch adeiladau'r cyngor yn y dyfodol, mae ffrwd waith Trawsnewid Gweithleoedd wedi bod yn gweithio i resymoli ein portffolio adeiladau, wrth foderneiddio a gwella'r gweithleoedd yn ein hadeiladau craidd a gedwir.


Hyd yn hyn rydym wedi:


Cwblhau ad-drefnu'r swyddfeydd ar ddau lawr yn Nhŷ Elwyn. Mae staff Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli yn gweithio gyda'i gilydd ar un llawr yn Nhŷ Elwyn bellach ac mae staff Tai o Borth y Dwyrain wedi'u lleoli ar lawr arall ochr yn ochr â staff Iechyd gan greu cyfleusterau cyfarfod a mannau gweithio hyblyg gwell.


Gwerthu Parc Dewi Sant a symud staff i Heol Spilman a Neuadd y Sir.


Symud staff o Hen Lyfrgell a Neuadd y Dref Rhydaman i Dŷ Parc-yr-hun ac mae opsiynau ar gyfer y mannau hyn yn y dyfodol yn cael eu hystyried.


Dechrau astudiaeth ddefnydd ym Mharc Myrddin i bennu anghenion ac opsiynau staff sy'n gweithio yma ar hyn o bryd.

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud

Rhesymoli swyddfeydd

  • Adolygu anghenion y gweithlu o ran adeiladau ledled Sir Gaerfyrddin a gweithio i resymoli'r ôl troed ystad yn dilyn y newidiadau mewn patrymau gwaith yn sgil symud i weithio hybrid.
  • Mae Parc Dewi Sant wedi cael ei werthu ac mae staff wedi cael eu symud i Heol Spilman a Neuadd y Sir.
  • Mae'r gwaith yn parhau i wella'r amgylchedd gwaith yn Neuadd y Sir.
  • Mae astudiaeth ddefnydd ar waith ym Mharc Myrddin i bennu anghenion ac opsiynau staff sy'n gweithio yma ar hyn o bryd.
  • Mae staff wedi symud o Hen Lyfrgell a Neuadd y Dref Rhydaman i Dŷ Parc-yr-hun ac mae opsiynau ar gyfer y mannau hyn yn y dyfodol yn cael eu hystyried.
  • Mae cynllun peilot o ganolfannau Hwb gweithio amlasiantaethol wedi dod i ben oherwydd bod sefydliadau partner wedi methu â defnyddio'r lleoedd ac mae adolygiad o fannau gweithio achlysurol ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin ar waith.
Deall defnydd o weithleoedd
  • I gefnogi'r gwaith o ddeall ein defnydd o weithleoedd a'n hanghenion, mae'r system Occupeye wedi cael ei rhoi ar waith sy'n defnyddio synwyryddion i gofnodi'r defnydd o ddesgiau ac ystafelloedd cyfarfod. Bydd y data o'r system hon yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniad ynghylch anghenion adeiladau yn y dyfodol.

 

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.