Cynllunio a Gwella Gwasanaethau

Diweddarwyd y dudalen: 05/03/2024

 Gareth Jones – Prif Swyddog Digidol

Darparu ar gyfer ymagwedd fwy cynaliadwy a chreadigol at yr adolygiad, ailfodelu a gwella gwasanaethau’r Cyngor.

  • Datblygu ffordd strategol, seiliedig ar dystiolaeth, a chynhwysol o benderfynu ar adolygiadau a phrosiectau trawsnewid gyda’r bwriad o sicrhau bod y rhaglen adolygiadau yn canolbwyntio ar gefnogi prif amcanion a blaenoriaethau’r Cyngor.
  • Datblygu rhaglen dreigl 3-blynedd o adolygiadau.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu dull blaengar a chynhwysol o gynnal adolygiadau, sy’n galluogi’r holl randdeiliaid perthnasol i gyfrannu’n effeithiol at y broses.
  • Monitro’r rhaglen adolygiadau i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau’n brydlon a’u bod yn cyflawni’r deilliannau angenrheidiol.
  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn yn eu lle ar ddechrau pob adolygiad er mwyn sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer prosiectau a bod ganddynt y capasiti i gynnal yr adolygiad.
  • Goruchwylio’r gwaith o weithredu cynlluniau cyflawni cadarn a gofalu fod y cynlluniau hynny’n gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i greu newid a gwelliant trawsnewidiol.
  • Goruchwylio camau cloi, cymeradwyo ac ôl werthuso adolygiadau ac adnabod cyfleoedd i rannu dysgu ac arfer da gyda gweddill y sefydliad.
  • Gwneud defnydd effeithiol o ddata perfformiad a gwybodaeth arall i sicrhau bod deilliannau adolygiadau yn gynaliadwy wedi iddynt gael eu cloi a’u cymeradwyo.
  • Datblygu fframwaith gwerthusiad cwsmer mewnol i alluogi’r Tîm Trawsnewid i adolygu a gwella’n barhaus ein harferion prosiect ein hunain.
  • Datblygu a gweithredu model i gefnogi dull ‘hunangymorth’ o adolygu prosesau gwasanaethau.

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ein defnydd o ddata fel sefydliad er mwyn sicrhau bod ein dull o adnabod adolygiadau a phrosiectau trawsnewid yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cyfeirio at y meysydd sydd â'r angen mwyaf. 

Rydym hefyd yn gweithredu proses fwy cadarn ar gyfer yr adolygiadau gwasanaeth er mwyn sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd a nodwyd ar gyfer gwelliant a newid Trawsnewidiol a bod adrannau'n cael eu cefnogi i ddatblygu eu prosiectau ochr yn ochr â'u gwaith parhaus hanfodol.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.