Ysgolion

Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2023

Gareth Morgans – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant

Cynorthwyo ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.

  • Cefnogi ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cyllidebau ariannol cynaliadwy yn y tymor, canol a hir a sicrhau bod y gwaith hwn yn gydnaws â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’r Cyngor.
  • Trafod arbedion effeithlonrwydd ac arbedion costau posib o fewn cyllidebau ysgol gyda chyrff llywodraethu.
  • Datblygu fframwaith i rannu a lledaenu arfer da ar draws ysgolion.
  • Gweithio’n agos gyda gwasanaethau allweddol yn y Cyngor i adnabod data a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn trafodaethau gydag ysgolion ynghylch cyfleoedd arbedion ariannol posib e.e. strwythurau staffio, cymorth busnes, maint dosbarthiadau.
  • Datblygu ymhellach a chryfhau rôl caffael strategol mewn ysgolion a chefnogi’r defnydd o fframweithiau priodol i sicrhau bod gwariant ysgolion yn cynnig gwerth am arian.
  • Cefnogi’r gwaith o ailfodelu’r berthynas rhwng ysgolion a gwasanaethau allweddol yn y Cyngor ynghylch meysydd gwariant dirprwyedig e.e. cynnal a chadw eiddo a thiroedd..
  • Datblygu dulliau o gefnogi meincnodi data ar draws ysgolion y sir ynghylch meysydd gwariant allweddol.
  • Gweithio gydag Uned Adnoddau Dynol y Cyngor a Phenaethiaid er mwyn ceisio lleihau gwariant ar absenoldebau salwch, a recriwtio a phenodi staff, gan gynnwys y defnydd o athrawon cyflenwi.

Yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth Tasgfan ysgolion mewn ysgolion cynradd rydym yn gweithio gyda Phenaethiaid i ddatblygu fframwaith i hwyluso darpariaeth debyg i gefnogi ein hysgolion uwchradd wrth reoli ein hadeiladau addysgol drwy nodi meysydd risg neu welliant a chefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw rhagweithiol.

Gan ddefnyddio dangosfwrdd gwariant ysgolion, rydym wedi datblygu ymhellach ddarpariaeth data meincnodi ysgolion sy'n cael ei rannu gyda Phenaethiaid i gefnogi wrth gynllunio cyllideb ar gyfer y tymor byr a'r tymor canolig. 

Mae matrics effeithlonrwydd wedi cael ei ddatblygu i gefnogi ysgolion sydd angen neu eisiau gwneud newidiadau i'w cynlluniau cyllidebol wrth nodi meysydd o arfer da a chyfleoedd i newid.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.