Teithio Staff

Diweddarwyd y dudalen: 15/11/2023

Fel awdurdod rydym wedi arbed dros £2m o wariant cysylltiedig â theithio ers 2012, ond gan fod hawliadau teithio staff yn parhau i fod dros £1.7m, rydym yn parhau i edrych ar sut y gallwn leihau'r gwariant hwn.


Mae dadansoddiad diweddar o ddata teithio staff yn dangos bod milltiroedd staff a chostau cysylltiedig yn cynyddu tua 10% bob blwyddyn yn ôl pob golwg.

Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â lleihau teithio busnes, nid yn unig i'r cyngor o safbwynt ariannol ond hefyd i chi fel unigolyn ac i'n cymuned ehangach.

• gostyngiad mewn amser teithio
• mwy o hyblygrwydd a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd
• gwell cynhyrchiant
• llai o draffig, yn enwedig yn ystod oriau brig
• llai o lygredd aer a sŵn


Lle mae angen ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb,
anogir rheolwyr a gweithwyr i ystyried yr opsiynau canlynol yn lle defnyddio car personol a chyflwyno hawliad teithio.

Car adrannol:

O ran argaeledd ceir adrannol, gall unrhyw aelod o staff archebu car adrannol corfforaethol sydd wedi'i leoli ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin a Depo Trostre, Llanelli, Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car adrannol ar gael yma.

Mae ceir tîm penodol hefyd ar gael mewn rhai gwasanaethau megis Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cynllunio, TG a Thai a Diogelu'r Cyhoedd. Os nad ydych yn siŵr a oes gan eich tîm gerbyd adrannol neu os nad ydych yn siŵr sut i archebu cerbyd, gwiriwch gyda'ch rheolwr llinell.

Mae hygyrchedd ceir adrannol hefyd yn cael ei adolygu fel rhan o'r symudiad i gyfnerthu staff mewn adeiladau craidd ar draws y sir a bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i sicrhau bod digon o geir adrannol ar y safleoedd hyn.

Car Hurio:

Ar gyfer teithiau hirach, fel teithiau y tu allan i'r sir, anogir staff i ddefnyddio opsiwn hurio car gan yr ystyrir mai dyma'r opsiwn mwyaf cost-effeithiol ar gyfer teithiau milltiroedd uwch (e.e. dros 60 milltir). Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car i'w hurio ar gael yma.

Trafnidiaeth Gyhoeddus:

Os ydych chi'n archebu mewn da bryd, gall teithio ar y bws neu'r trên fod yn ddewis da yn lle llogi ceir, a mantais arall yw bod modd i chi ymlacio yn ystod eich taith a chyrraedd eich cyrchfan wedi dadflino ac yn barod i fynd.

Beicio:

Os oes gennych ddiddordeb mewn lleihau eich dibyniaeth ar eich car a'ch bod yn gallu beicio i'r gwaith, beth am edrych ar y Cynllun Beicio i'r Gwaith ar gyfer staff Cynllun Beicio i'r Gwaith (buddionstaffcsg.co.uk)

Ar hyn o bryd mae Cynllun Beiciau Adrannol i Staff yn cael ei dreialu ar gyfer staff sy'n gweithio o Barc Myrddin.

Dweud eich dweud
Os oes gennych syniad neu awgrym ar sut y gallwn leihau costau teithio staff a gwella'r amgylchedd ar gyfer ein cymunedau lleol, rhowch wybod i ni Dweud eich dweud.
Teithio i argraffu neu anfon neu lofnodi dogfen?
Ar hyn o bryd mae'r tîm trawsnewid yn cyflwyno nifer o fentrau i resymoli a/neu awtomeiddio rhai o'r prosesau papur. Bydd y prosesau hyn yn helpu staff i weithio mewn ffordd fwy hybrid neu symudol. Y Newyddion Diweddaraf.
Allwch chi helpu?

Os ydych yn ymwybodol o broses neu dasg sy'n gofyn i chi fynd i swyddfa y credwch y gellid ei awtomeiddio a'i gwneud mewn ffordd fwy cynhyrchiol, cysylltwch â'r Tîm Trawsnewid