Arbedion Effeithlonrwydd a Gwerth am Arian

Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2023

Jonathan Morgan - Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel

 Parhau i sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau a ffyrdd mwy clyfar o weithio.

  • Parhau i fonitro ac ymchwilio i feysydd gwariant arferol/ailadroddol gyda’r bwriad o dorri gwariant ymhellach yn y meysydd hyn, lle’n briodol.

  • Cefnogi’r gwaith o adnabod a gwneud arbedion effeithlonrwydd PBB ar lefel gorfforaethol a gwasanaethau.

  • Adnabod cyfleoedd eraill am arbedion effeithlonrwydd trwy dorri costau a/neu ffyrdd mwy clyfar o weithio

  • Sicrhau y gall y Cyngor wneud y gorau o gyfleoedd ‘Buddsoddi i Arbed’ mewnol ac allanol er mwyn gwneud arbedion ariannol a/neu gynhyrchiant.

  • Sicrhau bod gan yr Awdurdod brosesau cadarn ar waith ar gyfer comisiynu a rheoli contractau sy’n glir i staff ar bob lefel o’r sefydliad ac y cedwir atynt ar draws ein holl wasanaethau amrywiol.

  • Annog staff i feddwl yn fwy blaengar ynghylch gweithgareddau comisiynu a chaffael a herio ffyrdd presennol o weithio trwy reoli yn ôl categori

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud

Cynorthwyo Rheolwr Cyllideb Is-adrannol i nodi arbedion ariannol posibl ar lefel gorfforaethol a gwasanaethau
  • Mae'r gwaith o adolygu adroddiadau cyllidebau is-adrannol a chwrdd â rheolwyr cyllideb wedi helpu i nodi arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 24/25 a thu hwnt.
  • Mae meysydd gwaith yn cael eu datblygu bellach.  
    • Cyfleoedd Mewnoli Technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI)
    • Rheoli contractau a chomisiynu
    • Adolygu'r safonau perfformiad gofynnol ar gyfer gwasanaethau
    • Creu Incwm a Masnacheiddio
    • Casglu ac Adennill Incwm       
  • Cyfleoedd arbed costau sy'n benodol i wasanaethau - Mae cynllun gweithredu wedi'i lunio i helpu i gyflawni cyfleoedd tymor byr a thymor hir.
Cynllunio staff
  • Gweithio gydag adrannau i nodi ffyrdd o roi strwythurau staffio cynaliadwy ar waith gyda'r nod o leihau costau sy'n gysylltiedig â goramser a staff asiantaeth.
  • Adolygu effaith trefniadau aros galwad i sicrhau eu bod yn briodol i anghenion gwasanaethau.
  • Adolygu trefniadau'r lwfans 8% i sicrhau eu bod yn briodol i anghenion gwasanaethau.
Dadansoddiad o Wariant Arferol
  • Yn dilyn datblygu dangosfwrdd PowerBi, mae adroddiadau 6 misol yn cael eu defnyddio i dargedu dadansoddiad o feysydd lle mae costau uchel neu gostau cynyddol i gefnogi ymyrryd yn gynnar a datblygu atebion.
Buddsoddi i Arbed
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r potensial i fanteisio ar gyfleoedd Buddsoddi i Arbed yn y Cyngor i gefnogi mentrau effeithlonrwydd gwasanaethau.
  • Ceisio nodi mathau posibl o gyllid allanol i gefnogi'r gwaith hwn.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.