Newyddion diweddaraf

Diweddarwyd y dudalen: 20/11/2023

Yn dilyn ymgysylltiad helaeth Llif Gwaith y Gweithlu Trawsnewid â rheolwyr gwasanaeth, Penaethiaid Gwasanaeth a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol ar alluogi gweithlu hyblyg, mae'n amlwg bod fframwaith cyflogaeth priodol ar waith, y gellir ei 'hyblygu' i helpu gwasanaethau i gyflawni mewn ffordd ddynamig.

Canfuwyd bod anghysondeb ar draws y sefydliad o ran dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r fframwaith cyflogaeth hwn i hwyluso gweithlu hyblyg a deinamig.Yr allwedd bob amser yw ymgysylltu'n gynnar â'ch cynlluniau darparu gwasanaeth a'ch gweithlu gyda'ch Partneriaid Busnes Arweiniol/Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol fel y gellir trafod a chytuno ar atebion a hyblygrwydd priodol sy'n galluogi eich cynlluniau darparu gwasanaeth ac yn cadw'r Awdurdod o fewn terfynau statudol.

Isod fe welwch fanylion ynghylch sut y gellir defnyddio'r fframwaith i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd allweddol a godwyd yn y trafodaethau.

Fframwaith

Gellir gofyn am gyngor pellach hefyd gan y tîm Gwasanaethau Poblfel y bo'n briodol.

Y gwasanaeth gwastraff gardd a'r tîm Dyledwyr yn cydweithio i leihau rhwystredigaeth cwsmeriaid ac arbed amser ac arian drwy ateb post hybrid.

 

Drwy weithio gyda'i gilydd, mae'r tîm Gweithrediadau Gwastraff a’r tîm Dyledwyr wedi defnyddio post hybrid i leihau costau ac adennill 6 diwrnod gwaith wrth anfon anfonebau a gwybodaeth am y gwasanaeth gwastraff gardd blynyddol. Darllenwch eu stori i gael gwybod sut y gall partner post hybrid y cyngor gefnogi eich adran, p'un a ydych yn anfon un llythyr neu lawer o bost.

 

Beth yw'r Gwasanaeth Gwastraff Gardd?

Mae'r gwasanaeth gwastraff gardd, a reolir gan y tîm Gweithrediadau Gwastraff, yn cael ei ddarparu rhwng mis Mawrth a mis Hydref bob blwyddyn gan gasglu gwastraff gwyrdd cwsmeriaid a'i ailgylchu i greu compost.  Mae'n wasanaeth blynyddol y mae'n rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth dalu amdano bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod ei wastraff yn cael ei gasglu. Gall cwsmeriaid newydd dalu drwy ddefnyddio dolen ar-lein i 'archebu' eu gwasanaeth. Ar gyfer cwsmeriaid presennol, mae anfoneb yn cael ei chodi gan y tîm dyledwyr i'r defnyddiwr gwasanaeth dalu i ailddechrau ei wasanaeth. Mae'r tîm Gweithrediadau Gwastraff yn cysylltu â phob cwsmer i roi gwybod am ei ddiwrnodau a'i wythnosau casglu. Gall hyn fod ar ffurf electronig neu ar ffurf bapur yn dibynnu ar ddewis y cwsmer.

Beth oedd y broblem?

O blith yr 11,000 o gwsmeriaid gwastraff gardd mae tua 2,000 wedi gofyn am ddeunydd cyfathrebu ar ffurf papur, ac roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i bob tîm lunio 9,000 o e-byst naill ai gydag anfoneb neu amserlen, a llunio 2,000 o ddogfennau pellach, eu plygu, eu rhoi mewn amlen, eu ffrancio a’u postio yr un. Roedd yn cymryd 3 o bobl o bob tîm dros ddiwrnod i greu'r fersiynau papur gan arwain at golli 6 diwrnod gwaith yn llenwi ac yn anfon amlenni.

Yn dilyn rhyddhau'r amserlenni a’r anfonebau gwastraff gardd yn 2023 cafodd y ganolfan gyswllt, y tîm arianwyr a'r tîm dyledwyr lawer mwy o alwadau gan gwsmeriaid dryslyd neu flin a oedd wedi derbyn un neu'r llall o'u dogfennau yn unig, naill ai'n electronig neu drwy'r post, ac yn ei chael hi'n anodd ailddechrau eu gwasanaeth.  Nodwyd mai achos y cwynion hyn oedd y gwahaniaeth amser rhwng anfon y ddwy ddogfen gan y ddau wasanaeth a methiant rhai eitemau electronig a phost i gyrraedd o gwbl.

Beth mae nhw wedi ei wneud?

Gan ddefnyddio sgiliau'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau a chydweithio mae'r ddau dîm wedi manteisio ar yr atebion post electronig a hybrid corfforaethol, Gov.Delivery a DSI. Trefnodd y gwasanaethau i gyfathrebiad ar y cyd gael ei lunio a oedd yn cynnwys yr amserlenni a'r wybodaeth ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd a'r anfoneb a'r manylion talu mewn un cyfathrebiad.  Yna anfonwyd y fersiynau electronig drwy gontract Gov.delivery y cyngor a chafodd copïau electronig o'r fersiynau papur eu creu a'u lanlwytho i DSI a gasglodd y ddwy set o ddogfennau i greu eitem bost unigol ar gyfer pob cwsmer a'i phostio.

Canlyniadau:

  • Gwell profiad i gwsmeriaid
  • Llawer llai o alwadau i'r ganolfan alwadau ac arianwyr
  • Arbed £1664 ar gostau postio, amlenni, papur ac argraffu
  • Arbed 6 diwrnod gwaith
  • Dileu tasgau dibwys a llafurus.

Rhagor o wybodaeth:

Os ydych chi'n dal i argraffu ac anfon eich post eich hun, p'un a yw'n un llythyr yr wythnos neu symiau enfawr o bost, mae ateb post hybrid i chi. I gael gwybod pa mor hawdd yw hi i symud i'r ateb hwn, sy'n arbed amser ac arian, cysylltwch â Mark Howard, Uwch-swyddog Trawsnewid a Newid, i gael arddangosiad neu gallwch gysylltu â'r tîm Trawsnewid drwy ein ffurflen we i roi gwybod i ni ble rydych chi'n meddwl y gellid defnyddio govmail ym mhrosesau eich tîm.

Wrth i weithio hybrid gynyddu mae angen mwy a mwy o wahanol fathau o leoedd i gwrdd, gweithio a chydweithio ar staff. 

Yn dilyn ymgynghoriad ynghylch adeiladau'r cyngor yn y dyfodol, mae ffrwd waith Trawsnewid Gweithleoedd wedi bod yn gweithio i resymoli ein portffolio adeiladau, wrth foderneiddio a gwella'r gweithleoedd yn ein hadeiladau craidd a gedwir.

Hyd yn hyn rydym wedi:

Cwblhau ad-drefnu'r swyddfeydd ar ddau lawr yn Nhŷ Elwyn. Mae staff Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli yn gweithio gyda'i gilydd ar un llawr yn Nhŷ Elwyn bellach ac mae staff Tai o Borth y Dwyrain wedi'u lleoli ar lawr arall ochr yn ochr â staff Iechyd gan greu cyfleusterau cyfarfod a mannau gweithio hyblyg gwell.

Gwerthu Parc Dewi Sant a symud staff i Heol Spilman a Neuadd y Sir.

Symud staff o Hen Lyfrgell a Neuadd y Dref Rhydaman i Dŷ Parc-yr-hun ac mae opsiynau ar gyfer y mannau hyn yn y dyfodol yn cael eu hystyried.

Dechrau astudiaeth ddefnydd ym Mharc Myrddin i bennu anghenion ac opsiynau staff sy'n gweithio yma ar hyn o bryd.

Mae'r Ffrwd Waith Trawsnewid y 'Gweithlu' yn falch o gyhoeddi lansiad Llwyfan Profiad Dysgwyr a System Rheoli Dysgu [LXP-LMS] newydd sbon o'r enw Thinqi ("Think-e”).

Gan gydnabod hyn fel blaenoriaeth allweddol o ran y gweithlu ar gyfer ein pobl, dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, "Bydd y system newydd yn ein helpu i ddatblygu'r dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cymunedau a dod yn Gyflogwr o Ddewis mwy modern ac ymatebol”.

Dywedodd Paul Thomas, y Prif Weithredwr Cynorthwyol: “Mae system Thinqi wedi cael ei chaffael gan ddefnyddio dull 'Unwaith i Gymru' ac mae disgwyl y bydd hyn yn trawsnewid ein dysgu ar draws ffiniau. Gwnaethpwyd y gwaith caffael ar y cyd â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Blaenau Gwent, ac roedd pob un o'r 22 awdurdod lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill wedi'u rhestru ar y Contract Cymru Gyfan. Os gallwn rannu'r dysgu, bydd yr adnodd cyfun hwnnw'n gallu datblygu ymhellach yr hyn a gynigir i'n pobl”.

Bydd y system Thinqi newydd yn cael ei chyflwyno ar draws adrannau dros y misoedd nesaf, gan sicrhau ei bod yn haws cael mynediad i'r dysgu perthnasol sydd ei angen arnoch, gan gynnwys ein holl 'Ddysgu Hanfodol' yn y Cyngor.

Cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r system Thinqi gan y Tîm Dysgu a Datblygu, gan gynnwys sesiynau hyfforddi ac adnoddau i'ch rhoi ar ben ffordd.

Ym mis Chwefror 2019, ni oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd gan ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.


Ers hynny, ni yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu carbon sero-net a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ym mis Chwefror 2020.


Bydd Prosiect Zero Sir Gâr yn tynnu sylw at bob ymdrech sy'n parhau i gael ei gwneud wrth i ni weithio tuag at fod yn gwbl garbon niwtral erbyn 2030.


Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gofyn i chi gyd i gymryd rhan – bydd pob ymdrech - boed yn fawr neu'n fach – yn helpu tuag at y targed o ddod yn garbon sero-net.

Yn 2022/23, roedd Cyfanswm yr Ynni a Gynhyrchir (kWh) wedi gostwng 5.65% o'i gymharu â 2021/22, roedd hyn yn rhannol oherwydd yr 1,317,121 kWh o ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd gennym.

 

Fel cyngor rydym yn adrodd yn flynyddol ar allyriadau sy'n deillio o bedwar maes allweddol; adeiladau annomestig, goleuadau stryd, milltiroedd fflyd a milltiroedd busnes ac rydym wedi llwyddo i leihau ein hallyriadau carbon o 36% ers 2016/17.

Beth ydyn ni wedi bod yn ei wneud?


Mae Prosiect Zero Sir Gâr cynnwys popeth o sicrhau bod pob prosiect adeiladu newydd mawr megis cartrefi ac ysgolion yn effeithlon o ran ynni ac yn ymgorffori ynni adnewyddadwy, ail-ffitio adeiladau hŷn gydag ystod eang o fesurau arbed ynni, gan gynnwys paneli solar ffotofoltäig, gosod goleuadau LED newydd, rheolyddion goleuadau, inswleiddio pibellau, gwella adeiladwaith adeiladau, uwchraddio boeleri a thechnoleg arbed dŵr a gwres


Gan fod adeiladau annomestig yn cyfrif am 70% o'n hallyriadau CO2e, mae mesuryddion 'deallus' yn y broses o gael eu gosod yn holl adeiladau'r Cyngor er mwyn i ni reoli a monitro ein defnydd o gyfleustodau yn well. Bydd hyn hefyd yn galluogi cyflwyno bilio electronig awtomataidd ar gyfer ein cyfleustodau, gan ddileu'r angen i wirio anfonebau papur a nodiadau credyd.


Sut y Gallwch chi wneud gwahaniaeth?


Mae Prosiect Zero Sir Gâr yn ymwneud â phawb. Wrth i lawer ohonom wneud y pethau bach, gallwn wneud gwahaniaeth mawr.


Ynni - Defnyddiwch gyn lleied o ynni âphosibl


• Diffoddwch oleuadau ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
• Peidiwch â gadael sgriniau cyfrifiadur mewn modd segur
• A oes angen i'r golau fod ymlaen? Os oes digon o olau naturiol, diffoddwch y goleuadau
• Defnyddiwch y grisiau yn hytrach na'r lifft
• Anogwch bawb i gael diod boeth ar yr un pryd. Mae hyn yn atal y tegell rhag cael ei ferwi sawl Gwaith
• Peidiwch â chael y ffenestri ar agor a'r gwres ymlaen ar yr un pryd
• Sicrhewch fod yr adeilad yn cael ei gynhesu dim ond pan fydd pobl yno


Rhagor o Wybodaeth am Carbon Sero-net erbyn 2030 ac Prosiect Zero Sir Gâr


Mae gen I syniad!

Dywedwch wrthym am eich syniad neu os ydych chi eisoes yn chwarae eich rhan, ni waeth pa mor fach. Rhannwch eich syniadu.

Mae ffrwd waith ysgolion a arweinir gan Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn cwrdd bob mis er mwyn dod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, ynghyd â chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.

Rhannu a lledaenu arferion busnes da.

Er mwyn sicrhau cysondeb a hyrwyddo arferion gorau o ran gweinyddu ysgolion, datblygwyd cyfres o gyfleoedd rhwydweithio i staff gweinyddol.

Argymhellir y dylai aelod o'r tîm gweinyddu o bob ysgol fynd i'r digwyddiadau hyn, a fydd yn cynnwys cyngor, gwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant gan ystod o Swyddogion y Sir, cyflwynwyr allanol a chydweithwyr profiadol.

Bydd rhwydweithio, cyngor a chyfarfodydd datblygu'n cael eu cynnal bob tymor. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i helpu i rannu arferion da a lledaenu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gyfer pob personél sy'n gyfrifol am weinyddu ysgolion.

Rheolwyr Busnes a Gweinyddwyr Ysgolion Cynradd
17/10/2023, 21/02/2024, 15/05/2024 9am-12.30pm Neuadd y Gwendraeth

Rheolwyr Busnes a Gweinyddwyr Ysgolion Uwchradd
19/10/2023, 22/02/2024, 16/05/2024 1-4pm Neuadd y Gwendraeth


Effeithlonrwydd a Meincnodi

Mae ystod o fatricsau Meincnodi ac Effeithlonrwydd wedi'u datblygu i gefnogi Arweinwyr Ysgolion a chyrff Llywodraethu i nodi meysydd lle gellir gwneud addasiadau i hyrwyddo effeithlonrwydd gweithredol ac ariannol.

Yn dilyn cytundeb gan y Penaethiaid Uwchradd i rannu data, gwnaethpwyd ymarfer meincnodi Ariannol, y Cwricwlwm a Staffio. Rhannwyd canfyddiadau'r adolygiad hwn â Phenaethiaid i'w defnyddio i roi cymorth wrth wneud penderfyniadau lleol a chynllunio datblygu ysgolion. Mae'r dogfennau'n galluogi Uwch-arweinwyr i gymharu meysydd allweddol o ran strwythur a gwariant gydag ysgolion tebyg eraill ac i archwilio'r rhesymau dros amrywiannau, gyda'r bwriad o weld a allai newid dull mewn maes arwain at lefelau uwch o effeithlonrwydd i'r ysgol. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot hwn mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r fformat gorau ar gyfer ymarfer mewn Ysgolion Cynradd.

Ar gyfer ysgolion sy'n wynebu anawsterau ariannol mwy penodol, mae'r tîm trawsnewid yn cefnogi Penaethiaid a chyrff Llywodraethu i baratoi matricsau effeithlonrwydd manwl sy'n ceisio nodi meysydd i arbed costau i ysgolion drwy gynnal dadansoddiad manwl o fodelau staffio a'r cwricwlwm, a phatrymau gwario ysgolion.

Yn dilyn yr adolygiadau hyn, nodir camau allweddol i helpu ysgolion i addasu eu prosesau a'u harferion i'w cefnogi i fod yn fwy effeithlon. Ar hyn o bryd, mae'r ffrwd waith yn blaenoriaethu ysgolion sydd â diffyg ariannol, neu sy'n wynebu diffyg ariannol. Os yw cyrff llywodraethu ysgolion eraill yn dymuno cael y cymorth hwn, cysylltwch ag Allan Carter yn y lle cyntaf.


Cytundebau Lefel Gwasanaeth

Yn dilyn ymgynghori â rhanddeiliaid Ysgolion gwnaed gwaith gydag Arweinwyr CLG i ddatblygu fframwaith cyson ar gyfer data a gwybodaeth o ran CLG. Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith hwn yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol 2023-24 gyda'r costau CLG blynyddol yn cael eu casglu mewn un ddogfen ar gyfer pob ysgol. Mae'r ddogfennaeth ar gyfer Cytundebau Lefel Gwasanaeth Blynyddol wedi cael ei gosod mewn fformat cyson ac mae gwaith yn mynd rhagddo i osod yr holl CLG aml-flwyddyn yn yr un fformat. Bwriad y dull cyson hwn yw cefnogi ysgolion i allu cael gafael ar wybodaeth am eu Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn gyflym ac yn effeithlon a chefnogi'r gwaith o fonitro effeithiolrwydd a gwerth am arian wrth symud ymlaen.

Mae'r holl ddogfennaeth CLG wedi'i gosod yn ganolog a bellach gellir ei gweld ar y Porth. Mae gwybodaeth ariannol ysgolion unigol sy'n ymwneud â Chytundebau Lefel Gwasanaeth ar gael trwy fynd i Fy Ysgol ar Sharepoint CSC.


Caffael

Anogir ysgolion i gael mynediad i'r arbedion sydd ar gael drwy ddefnyddio contractau prynu corfforaethol y Cyngor.

Mae'r contractau canlynol yn agored i bob ysgol ac mae meincnodi diweddar wedi nodi bod ysgolion sy'n defnyddio'r contractau wedi sicrhau arbedion sylweddol. Yn ogystal, os bydd gan unrhyw ysgol broblemau gydag unrhyw gyflenwyr fframwaith nad ydynt yn bodloni'r lefelau gwasanaeth sy'n ofynnol o ran y contract, bydd tîm caffael CSC yn gallu helpu i ddatrys materion ac anghydfodau.


Mae'r contract hwn yn cynnig dosbarthu ystod o eitemau y diwrnod nesaf am ddim. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig opsiynau syml i brynu ar-lein mewn modd sy'n cydymffurfio, ynghyd â chyfleusterau llawn o ran credyd ac anfonebu. Ymhlith y cynhyrchion sydd ar gael y mae papur ac amlenni, deunydd ysgrifennu ac offer, llyfrau ymarfer, cyflenwadau swyddfa a chelfi, cyfleusterau a chynhyrchion hylendid a Chyfarpar Diogelu Personol.

  Mae'r contract hwn yn cynnig dosbarthu ystod eang o gyflenwadau addysgol y diwrnod nesaf am ddim. Sylwch mai dyma'r cyflenwr cymeradwy ar gyfer Ysgolion yng Nghymru. Nid yw Consortium, deiliad blaenorol y contract, bellach yn gweithredu o dan y fframwaith ac nid yw'r cwmni o dan unrhyw rwymedigaeth i fodloni'r cytundebau o ran dosbarthu a phrisiau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith. Nid yw'r cyngor ychwaith yn gallu cynorthwyo â materion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth sy'n gysylltiedig â defnyddio Consortium fel cyflenwr.


  Mae'r contract hwn yn cynnig gostyngiadau sylweddol ar gostau rhent llinell ac offer ar gyfer teleffoni. Byddwch yn ymwybodol bod nifer o gwmnïau'n ceisio cytuno ar gysylltiadau annibynnol ag ysgolion ar hyn o bryd gan ddefnyddio newidiadau 2025 i linellau BT fel esgus ar gyfer cysylltu yn y lle cyntaf. Adept yw'r unig gyflenwr cymeradwy ar gyfer ysgolion. Mae'r cwmni'n gweithio ar y cyd â'r adran TG i sicrhau y gall holl galedwedd a seilwaith ysgolion gefnogi'r newidiadau. Anogir ysgolion yn gryf i beidio â llofnodi contractau gyda chyflenwyr eraill.
Cynghorir unrhyw ysgol nad yw eisoes yn defnyddio Adept ar gyfer pob llinell ffôn i gysylltu ag Allan Carter i gael cymorth i symud i Adept.

 Mae'r contract ar gyfer darparu dyfeisiau a gwasanaethau llungopïo ar gyfer ysgolion yn CSC bellach wedi'i ddyfarnu i Canon. Os ydych mewn contract gyda Konica ar hyn o bryd, cysylltwch ag Allan Carter i gael cyngor ynghylch y camau sydd angen eu cymryd i drosglwyddo i Canon ar ddiwedd eich contract presennol. Mae amser aros sylweddol ar gyfer peiriannau ac felly cynghorir pob ysgol i ddechrau'r broses drosglwyddo o leiaf 6 mis cyn i'r contract presennol ddod i ben. PEIDIWCH ag adnewyddu eich contract gyda Konica. Bydd yr adran TG yn gweithio gydag ysgolion ar yr adeg briodol i helpu i drosglwyddo'n hwylus i'r systemau newydd.

 Mae gan y cyngor gontract corfforaethol gyda PHS ar gyfer gwasanaethau hylendid ac ystafelloedd ymolchi. I gael mynediad at brisiau penodol y Cyngor ar gyfer y contract hwn, cysylltwch â Dominic Boyle . Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd contractau y cytunwyd arnynt yn uniongyrchol â PHS yn elwa ar y prisiau is sydd ar gael i ysgolion o dan y contract corfforaethol. Argymhellir bod yr holl ysgolion yn nodi'r dyddiad y mae eu contractau presennol yn dod i ben ac yn cysylltu â Dominic o leiaf 6 mis cyn hynny er mwyn gallu cymhwyso prisiau mwy cystadleuol i gontractau yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer contractau y gellid eu harchwilio'n gorfforaethol i helpu ysgolion i gael mynediad at well prisiau drwy brynu fel grŵp, cysylltwch â'r tîm Trawsnewid.


Gwastraff ac Ailgylchu

O fis Ebrill 2024 bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r holl wastraff masnachol, gan gynnwys ailgylchu a gwastraff ysgolion, gael ei ddidoli yn y tarddle a'i gasglu yn ôl math. Mae'r cyngor yn cydnabod y bydd hyn yn cyflwyno her i ysgolion. Er mwyn cefnogi ysgolion gyda'r newid hwn, mae'r cyngor ar hyn o bryd yn gweithio gyda CWM Environmental i ddatblygu contract newydd a fydd yn darparu gwasanaethau effeithlon a chynwysyddion storio priodol mewn mannau biniau ac mewn ysgolion. Bydd ysgolion sydd eisoes gyda CWM yn cael eu cynnwys yn y dull corfforaethol hwn.

Anogir unrhyw ysgolion sy'n defnyddio cyflenwyr eraill ar hyn o bryd i adolygu eu contractau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu ac i sicrhau bod eu cyflenwyr yn cynnig cymorth priodol.

Dylai unrhyw ysgol sy'n dymuno cael dyfynbris am wasanaeth gan CWM gysylltu ag Allan Carter i gael cymorth.


Athrawon asiantaeth

Mae cost uchel athrawon asiantaeth wedi cael ei gydnabod fel maes i'w adolygu ar draws pob adran yn y cyngor. Ar hyn o bryd mae nifer o gynlluniau peilot ac adolygiadau'n cael eu cynnal i sefydlu'r rheswm dros y galw mawr am athrawon asiantaeth ac i edrych ar opsiynau i helpu adrannau i leihau'r costau dan sylw. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r tîm trawsnewid ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o athrawon asiantaeth mewn ysgolion. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion yn nhymor yr hydref i ofyn am wybodaeth ac i drafod anghenion cyflenwi i'n helpu i sicrhau bod gofynion ysgolion yn cael eu deall ac i geisio unrhyw arferion da y gellir eu rhannu i helpu i leihau costau ar gyfer ysgolion.


Dweud eich Dweud

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb.

Rydym yn croesawu syniadau ac awgrymiadau gan bob aelod o staff. Mae hyd yn oed yr awgrymiadau mwyaf beiddgar yn gallu cael eu dadansoddi weithiau er mwyn canfod rhai syniadau defnyddiol iawn na fyddent wedi cael sylw fel arall!

  • Beth y mae cwsmeriaid yn cwyno amdano a sut y gallwn atal hyn rhag digwydd?
  • Beth yw'r meysydd lle mae gwastraff neu aneffeithlonrwydd yn y broses bresennol?
  • Sut y gellir gwella'r broses?
  • A oes modd gwneud y broses gyfan yn wahanol?
  • Beth yw rhannau hanfodol y broses? A oes modd cael gwared ar y rhannau eraill?
  • A oes rheswm dros yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd? Gofynnwch "Pam?" hyd nes i chi gael rheswm, neu "oherwydd rydym wastad wedi gwneud hynny".
  • Beth sy'n gwastraffu eich amser?

Mae gen i syniad!

Fel awdurdod rydym wedi arbed dros £2m o wariant cysylltiedig â theithio ers 2012, ond gan fod hawliadau teithio staff yn parhau i fod dros £1.7m, rydym yn parhau i edrych ar sut y gallwn leihau'r gwariant hwn.


Mae dadansoddiad diweddar o ddata teithio staff yn dangos bod milltiroedd staff a chostau cysylltiedig yn cynyddu tua 10% bob blwyddyn yn ôl pob golwg.

Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â lleihau teithio busnes, nid yn unig i'r cyngor o safbwynt ariannol ond hefyd i chi fel unigolyn ac i'n cymuned ehangach.

• gostyngiad mewn amser teithio
• mwy o hyblygrwydd a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd
• gwell cynhyrchiant
• llai o draffig, yn enwedig yn ystod oriau brig
• llai o lygredd aer a sŵn


Lle mae angen ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb,
anogir rheolwyr a gweithwyr i ystyried yr opsiynau canlynol yn lle defnyddio car personol a chyflwyno hawliad teithio.

Car adrannol:

O ran argaeledd ceir adrannol, gall unrhyw aelod o staff archebu car adrannol corfforaethol sydd wedi'i leoli ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin a Depo Trostre, Llanelli, Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car adrannol ar gael yma.

Mae ceir tîm penodol hefyd ar gael mewn rhai gwasanaethau megis Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cynllunio, TG a Thai a Diogelu'r Cyhoedd. Os nad ydych yn siŵr a oes gan eich tîm gerbyd adrannol neu os nad ydych yn siŵr sut i archebu cerbyd, gwiriwch gyda'ch rheolwr llinell.

Mae hygyrchedd ceir adrannol hefyd yn cael ei adolygu fel rhan o'r symudiad i gyfnerthu staff mewn adeiladau craidd ar draws y sir a bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i sicrhau bod digon o geir adrannol ar y safleoedd hyn.

Car Hurio:

Ar gyfer teithiau hirach, fel teithiau y tu allan i'r sir, anogir staff i ddefnyddio opsiwn hurio car gan yr ystyrir mai dyma'r opsiwn mwyaf cost-effeithiol ar gyfer teithiau milltiroedd uwch (e.e. dros 60 milltir). Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car i'w hurio ar gael yma.

Trafnidiaeth Gyhoeddus:

Os ydych chi'n archebu mewn da bryd, gall teithio ar y bws neu'r trên fod yn ddewis da yn lle llogi ceir, a mantais arall yw bod modd i chi ymlacio yn ystod eich taith a chyrraedd eich cyrchfan wedi dadflino ac yn barod i fynd.

Beicio:

Os oes gennych ddiddordeb mewn lleihau eich dibyniaeth ar eich car a'ch bod yn gallu beicio i'r gwaith, beth am edrych ar y Cynllun Beicio i'r Gwaith ar gyfer staff Cynllun Beicio i'r Gwaith (buddionstaffcsg.co.uk). Menter gan y cyngor yw'r cynllun hwn sydd wedi prynu dros 300 o feiciau hyd yn hyn. Mae'n galluogi staff i logi beic a/neu ategolion a gymeradwywyd am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i brynu'r beic yn llwyr ar ddiwedd y cyfnod.

Ar hyn o bryd mae Cynllun Beiciau Adrannol i Staff yn cael ei dreialu ar gyfer staff sy'n gweithio o Barc Myrddin.

Dweud eich dweud
Os oes gennych syniad neu awgrym ar sut y gallwn leihau costau teithio staff a gwella'r amgylchedd ar gyfer ein cymunedau lleol, rhowch wybod i ni Dweud eich dweud.
Teithio i argraffu neu anfon neu lofnodi dogfen?
Ar hyn o bryd mae'r tîm trawsnewid yn cyflwyno nifer o fentrau i resymoli a/neu awtomeiddio rhai o'r prosesau papur. Bydd y prosesau hyn yn helpu staff i weithio mewn ffordd fwy hybrid neu symudol. Y Newyddion Diweddaraf.
Allwch chi helpu?

Os ydych yn ymwybodol o broses neu dasg sy'n gofyn i chi fynd i swyddfa y credwch y gellid ei awtomeiddio a'i gwneud mewn ffordd fwy cynhyrchiol, cysylltwch â'r Tîm Trawsnewid

Mae cynllun rhesymoli peilot llwyddiannus eisoes wedi'i gynnal gyda staff Tai ac Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli. Mae staff Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli yn gweithio gyda'i gilydd ar un llawr o Dŷ Elwyn ac mae staff Tai o Borth y Dwyrain wedi'u lleoli ar lawr arall ochr yn ochr â staff Iechyd yn Nhŷ Elwyn, Llanelli

Roedd ail-ddylunio'r weithfan yn ôl anghenion gwasanaeth yn golygu bod y timau'n gweithio ar draws 2 lawr gyda 315 o staff yn gweithio o 120 o ddesgiau, gyda chyfleusterau cyfarfod gwell a gweithfannau hyblyg. Bellach gellir defnyddio'r model hwn ar draws yr awdurdod ond bydd yn cael ei addasu i adlewyrchu'r ffordd y mae pob gwasanaeth yn gweithio gan ein bod yn cydnabod nad yw pob tîm yn gweithio yn yr un ffordd.

Ty Elwyn, Llanelli, chyfleusterau cyfarfod gwell a gweithfannau hyblyg

  

 

 

 

 

Bydd Rhaglen Trawsnewid y cyngor yn helpu i sbarduno newid sylweddol i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn arloesol ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gost effeithiol dros y pum mlynedd nesaf (2027).

Un o'r prif nodau yw buddsoddi yn ein staff, ein hadeiladau a'n technoleg i annog arferion gweithio modern, cyflymu prosesau yn ogystal â datblygu'r sgiliau, y diwylliant a'r ymddygiadau sydd eu hangen i wneud newid yn bosibl.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb.

Dweud eich Dweud

Dysgu mwy am y Llif Gwaith Trawsnewid eraill a'r prosiectau

 

 Helpwch ni i barhau i fod yn awdurdod di-bapur.

Rydym yn gwella ein cyfraddau ailgylchu'n barhaus ond beth pe na bai angen i ni ailgylchu yn y lle cyntaf?
Beth pe gallem osgoi gorfod prynu a storio papur yn y lle cyntaf?
Beth pe gallech reoli eich holl anghenion o ran gohebiaeth heb orfod gadael eich desg?


Wel, bellach rydych chi'n gallu gwneud hynny.
Mae Ffrwd Waith Digidol a Chwsmeriaid y Rhaglen Drawsnewid wedi bod yn nodi a sefydlu opsiynau di-bapur y gall pawb fanteisio arnynt – sy'n golygu llai o deithio, llai o bapur a mwy o hwylustod, yn ogystal â gwneud y blaned yn lle gwell.

Y fantais amgylcheddol
• Mae 199 tunnell o bapur yn cael ei gynhyrchu bob 15 eiliad.
• I wneud dim ond 1 tunnell o bapur, mae angen 2,700 litr o ddŵr.
• Mae 93% o bapur yn dod o goed
• Papur yw 50% gwastraff busnes
• Mae ailgylchu 1 tunnell o bapur yn arbed tua 1400 litr o olew, 26500 litr o ddŵr ac 17 o goed
• (ffynhonnell ddata The world counts)


 Y fantais o ran cost
• Prynu deunydd ysgrifennu (papur, amlenni, styffylau, ffeiliau, waledi plastig)
• Prynu a chynnal argraffyddion.
• Man diogel ac addas i gadw eitemau cyfrinachol
• Dinistrio deunydd cyfrinachol pan na fydd angen ei gadw mwyach
• Ailgylchu gwastraff nad yw'n gyfrinachol


 Y fantais o ran amse
• Teithio i argraffydd
• Casglu dogfennau
• Dosbarthu i'w llofnodi
• Copïo
• Ffeilio
• Stwffio amlenni
• Ffrancio post
• Mynd i'r mannau post


Beth sy'n newydd a sut allwch chi gymryd rhan?

 Llofnodion electroni

Nid yw'n angenrheidiol bellach i ddogfennau gael eu llofnodi a'u cadw fel copi caled. Rydym wrthi'n rhoi cyfres o ddewisiadau amgen digidol ar waith yn lle llofnodion gwlyb. Bydd hyn yn caniatáu i ddogfennau gael eu storio'n electronig heb fod angen eu hargraffu, eu llofnodi a'u sganio eto.
Mae ateb electronig i bawb. Os ydych yn creu dogfennau ar ffurf copi caled ar gyfer llofnodion ar hyn o bryd ac nad ydych yn siŵr pa opsiynau di-bapur eraill fydd yn gweithio orau i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth yma

Post Hybrid

Er mwyn ein helpu i leihau'r angen i argraffu, ffrancio a phostio post o'n swyddfeydd, mae gennym gontract bellach ar waith gyda chyflenwr gwasanaethau post rheoledig a chymeradwy, Govmail.


Yn y dyfodol bydd llai o angen i brynu papur ac argraffu neu roi deunydd ymgyrchoedd postio mewn amlenni. Bydd llai o angen i ni logi neu brynu offer ffrancio. Bellach gellir anfon post ffisegol drwy glicio'ch llygoden ychydig o weithiau. Yn hytrach nag anfon eich eitem i'w hargraffu, gellid ei dargyfeirio'n uniongyrchol i'r system Govmail, lle bydd yn cael ei hargraffu a'i hanfon trwy'r Post Brenhinol atoch chi. Yn ogystal, mae'r costau postio yn llai oherwydd y pŵer prynu cynyddol i'r darparwr post nad oes gobaith byth i CSC ei gyflawni.


Beth bynnag fo'ch anghenion postio, boed yn ddau lythyr y mis neu'n ddegau o filoedd o lythyrau mewn ymgyrch bostio, bydd system i'ch cefnogi chi. Gallwch gael rhagor o wybodaethe yma.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb.

Dweud eich Dweud

Dysgu mwy am y Llif Gwaith Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol

Mae'r Bwrdd Trawsnewid wedi cymeradwyo'r Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau canlynol i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd a nodwyd ar gyfer gwelliant a newid Trawsnewidiol a bod adrannau'n cael eu cefnogi i ddatblygu eu prosiectau ochr yn ochr â'u gwaith parhaus hanfodol

1. Nodi'r Rhaglen Adolygu
- Defnyddio data a gwybodaeth i nodi blaenoriaethau e.e., Adroddiadau Monitro Perfformiad Corfforaethol a thrafodaeth y Tîm Rheoli Corfforaetholnsuring 
-Ceisiadau gan y Bwrdd Trawsnewid / y Tîm Rheoli Corfforaethol / y Cabinetign 
2. Cwmpasu'r Adolygiad - Sicrhau ein bod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni/y canlyniadaun
-Cymeradwyaeth gan y Cyfarwyddwyr / Penaethiaid Gwasanaeth / Ffrwd Waith y Gwasanaeth
3. Cynnal Adolygiad - Gwasanaeth i greu capasiti i sicrhau y gellir cynnal adolygiadau mewn modd amserol
-Cynnal adolygiadau yn unol â methodoleg gyson sydd wedi'i dylunio a'i haddasu i ddiwallu anghenion penodol Sir Gaerfyrddin ac sy'n cael ei thanategu gan Werthoedd Craidd y Cyngor
- Cyflwyno canlyniadau i Ffrwd Waith Gwella Gwasanaeth
4. Datblygu a Chyflawni Cynllun Gwella Gwasanaeth - Datblygu cynlluniau cyflawni sy'n nodi sut, pryd a chan bwy y bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad
- Penaethiaid Gwasanaeth i roi arweiniad ac ymrwymiad i'r broses weithredu
- Datblygu mesurau i werthuso canlyniadau
- Integreiddio camau gweithredu/mesurau i broses cynllunio busnes y gwasanaeth
5. Cymeradwyaeth gan y Rhaglen Drawsnewid - Tystiolaeth o newid a gwelliant sylweddol
- Tystiolaeth o'r gallu i greu newid hirdymor cynaliadwy
- Llunio mesurau allweddol i'w hadrodd i fframwaith rheoli perfformiad corfforaethol
6. Monitro perfformiad yn barhaus - Adroddiadau Monitro Perfformiad Corfforaethol i'r Tîm Rheoli Corfforaethol
- Monitro drwy'r uned Data Corfforaethol
7. Ymyrraeth gorfforaethol bellach (os oes angen)

- Angen i'r Tîm Trawsnewid gynnal adolygiad pellach/darparu cymorth
- Gofyn i'r Tîm Ymyriadau reoli’r gwasanaeth dros dro