Cymryd rhan - Cael y sgiliau i drawsnewid

Diweddarwyd y dudalen: 14/10/2026

Mae Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol wedi cael ei sefydlu i helpu'r Cyngor nodi a datblygu ei uwch-arweinwyr a chytunwyd y bydd rhaglen Arweinwyr y Dyfodol yn cyd-fynd yn agos â'r Rhaglen Drawsnewid i ddarparu sgiliau a phrofiad i gyfranogwyr wrth arwain ar brosiectau trawsnewid.

 


Fodd bynnag, dyma gyfle sydd ar agor i'r holl staff. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgaredd ffrwd waith neu arwain ar brosiect Trawsnewid fel rhan o gyfle datblygu, trafodwch gyda'ch Pennaeth Gwasanaeth yn y lle cyntaf cyn cysylltu â'r Tîm Trawsnewid am fwy o fanylion. 

 Bydd gan swyddogaeth dysgu a datblygu'r Cyngor rôl allweddol hefyd i'w chwarae mewn unrhyw raglen drawsnewid sefydliadol, drwy sicrhau bod staff yn gallu datblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiad angenrheidiol i gefnogi'r math o newid sydd ei angen.

 


Mae rhaglen o gyfleoedd dysgu yn cael ei datblygu a fydd yn ceisio datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi dull cynaliadwy o ymdrin â'r daith drawsnewid a fydd yn galluogi timau i wneud eu gwaith newid a gwella eu hunain yn barhaus. Edrychwch ar dudalennau'r timau Dysgu a Datblygu am ragor o wybodaeth.