Gweithlu

Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2023

 Paul Thomas – Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Weithlu a chyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu i alluogi’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern ac ymatebol ac yn ‘Gyflogwr o Ddewis’

  • Datblygu a chryfhau ymhellach fframwaith rheoli gweithlu strategol yr Awdurdod i gefnogi awydd y Cyngor i ddod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
  • Datblygu ymhellach drefniadau Cynllunio’r Gweithlu y Cyngor er mwyn creu’r capasiti a’r cydnerthedd i gyflawni ei amcanion strategol a rhagweld a chwrdd ag anghenion i’r dyfodol.
  • Gofalu y gall y Cyngor wneud defnydd effeithiol o ddata i gryfhau perfformiad a rheolaeth strategol ei weithlu.
  • Gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg i helpu i foderneiddio prosesau a gweithdrefnau gweithlu allweddol.
  • Cryfhau trefniadau’r Cyngor ar gyfer recriwtio, cadw a hyblygrwydd ei weithlu
  • Sicrhau bod gan staff y Cyngor y sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r agenda moderneiddio a thrawsnewid yn effeithiol fel y gall y Cyngor gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach.
  • Parhau i geisio gwella iechyd a llesiant ein gweithlu.

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud

Strategaeth Gweithlu
  • Rydym wrthi'n rhoi ein Strategaeth Gweithlu newydd ar waith a fydd yn cefnogi'r nod o ddod yn gyflogwr o ddewis i'r ardal leol
Fframwaith Data am y Gweithlu
  • Creu cyfres ddata sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth Gweithlu newydd a fydd yn ein helpu i ddeall ein gweithlu a'i anghenion yn well.
Cynllunio'r Gweithlu
  • Cynorthwyo rheolwyr i ddadansoddi anghenion eu gweithlu yn y dyfodol a nodi bylchau rhwng yr hyn sydd ganddynt nawr a'r hyn sydd ei angen arnynt fel y gellir datblygu atebion i helpu'r adran i gyflawni ei chynlluniau strategol.
  • Mae pecyn cymorth wedi cael ei ddatblygu ac mae ar gael ar y fewnrwyd.
  • Mae opsiynau ar gyfer prentisiaeth newydd, gan gynnwys prentisiaeth Gymraeg, yn cael eu datblygu.
  • Mae cynllun diwygiedig i raddedigion wedi cael ei gyflwyno.
  • Mae cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hysbrydoli i nodi Cyngor Sir Caerfyrddin fel eu cyflogwr o ddewis yn cael eu datblygu.
  • Mae fframwaith datblygu ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y dyfodol wedi cael ei ddatblygu ac mae grŵp peilot yr academi arweinyddiaeth wedi dechrau eu hyfforddiant.
Prosesau recriwtio
  • Mae system recriwtio newydd wedi cael ei chaffael a'i chyflunio'n benodol i anghenion y cyngor yn dilyn adolygiad o'r prosesau.
  • Bydd Oleeo yn rhoi mwy o berchnogaeth i reolwyr dros eu proses recriwtio ac yn cefnogi ffyrdd mwy effeithlon o weithio gan geisio lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i recriwtio a lleihau nifer yr ymgeiswyr sy'n gadael y broses oherwydd oedi.
  • Mae'r broses gyflwyno fesul cam wedi dechrau a bydd y cam olaf yn cael ei roi ar waith erbyn diwedd mis Mawrth.
Lleihau Costau Asiantaeth
  • Yn dilyn prosiect i adolygu'r potensial i ddatblygu swyddogaeth asiantaeth fewnol mae treial bellach wedi'i gytuno mewn gofal preswyl.
  • Mae tîm prosiect yn y camau cynnar o sefydlu cynllun peilot.
  • Mae adolygiad o staff asiantaeth mewn ysgolion wedi nodi amrywiaeth o ddulliau posibl i leihau costau staff asiantaeth a chefnogi darparu ateb cyflenwi o ansawdd gwell.
System Rheoli Dysgu
  • Mae system rheoli dysgu Cymru gyfan newydd o'r enw Thinqi wedi'i datblygu a bydd yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2024 gan roi'r holl ddysgu mewn un lle a rhoi mynediad digidol i weithwyr i amrywiaeth o ddigwyddiadau dysgu, adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio.
Ymgysylltu mwy â'r staff
  • Yn dilyn adborth gan staff a chanlyniad adolygiad diwethaf Buddsoddwyr mewn Pobl, mae amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu newydd wedi'u rhoi ar waith i gefnogi gwell cyfathrebu ac ymgysylltu â staff.
  • Mae enghreifftiau'n cynnwys sioeau teithiol i staff, arolygon staff, fforwm staff y Prif Weithredwr, treialu platfform EngagementHQ, codi proffil grwpiau a digwyddiadau staff.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.