Bwrdd Trawsnewid a Ffrydiau Gwaith Trawsnewid

Diweddarwyd y dudalen: 16/02/2023


Rôl y Bwrdd Trawsnewid yw goruchwylio cynnydd a chanlyniadau'r Bwrdd Trawsnewid yn gyffredinol.
Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob chwarter ac yn derbyn adroddiadau cynnydd chwarterol ac adroddiadau blynyddol ac yn cytuno ar brosiectau a blaenoriaethau blynyddol o fewn y Rhaglen

Mwy o wybodaeth am y Bwrdd Trawsnewid

Yn ogystal, mae Grwpiau Cyflawni Ffrydiau Gwaith wedi cael eu sefydlu i gefnogi'r gwaith o weithredu bob un o'r blaenoriaethau trawsnewid a chaiff y rhain eu harwain gan y Cyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth.
Bydd pob grŵp yn llunio crynodeb diwedd blwyddyn ac yna'n cytuno ar gynllun cyflawni newydd ar gyfer y flwyddyn ganlynol gan ystyried y blaenoriaethau, fel y cytunwyd arnynt yn y Bwrdd Trawsnewid.

Mwy o wybodaeth am y Ffrydiau Gwaith Trawsnewid​