Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Trawsnewid Ysgolion

Diweddarwyd y dudalen: 18/09/2023

Mae ffrwd waith ysgolion a arweinir gan Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn cwrdd bob mis er mwyn dod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, ynghyd â chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.

Rhannu a lledaenu arferion busnes da.

Er mwyn sicrhau cysondeb a hyrwyddo arferion gorau o ran gweinyddu ysgolion, datblygwyd cyfres o gyfleoedd rhwydweithio i staff gweinyddol.

Argymhellir y dylai aelod o'r tîm gweinyddu o bob ysgol fynd i'r digwyddiadau hyn, a fydd yn cynnwys cyngor, gwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant gan ystod o Swyddogion y Sir, cyflwynwyr allanol a chydweithwyr profiadol.

Bydd rhwydweithio, cyngor a chyfarfodydd datblygu'n cael eu cynnal bob tymor. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i helpu i rannu arferion da a lledaenu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gyfer pob personél sy'n gyfrifol am weinyddu ysgolion.

Rheolwyr Busnes a Gweinyddwyr Ysgolion Cynradd
17/10/2023, 21/02/2024, 15/05/2024 9am-12.30pm Neuadd y Gwendraeth

Rheolwyr Busnes a Gweinyddwyr Ysgolion Uwchradd
19/10/2023, 22/02/2024, 16/05/2024 1-4pm Neuadd y Gwendraeth


Effeithlonrwydd a Meincnodi

Mae ystod o fatricsau Meincnodi ac Effeithlonrwydd wedi'u datblygu i gefnogi Arweinwyr Ysgolion a chyrff Llywodraethu i nodi meysydd lle gellir gwneud addasiadau i hyrwyddo effeithlonrwydd gweithredol ac ariannol.

Yn dilyn cytundeb gan y Penaethiaid Uwchradd i rannu data, gwnaethpwyd ymarfer meincnodi Ariannol, y Cwricwlwm a Staffio. Rhannwyd canfyddiadau'r adolygiad hwn â Phenaethiaid i'w defnyddio i roi cymorth wrth wneud penderfyniadau lleol a chynllunio datblygu ysgolion. Mae'r dogfennau'n galluogi Uwch-arweinwyr i gymharu meysydd allweddol o ran strwythur a gwariant gydag ysgolion tebyg eraill ac i archwilio'r rhesymau dros amrywiannau, gyda'r bwriad o weld a allai newid dull mewn maes arwain at lefelau uwch o effeithlonrwydd i'r ysgol. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot hwn mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r fformat gorau ar gyfer ymarfer mewn Ysgolion Cynradd.

Ar gyfer ysgolion sy'n wynebu anawsterau ariannol mwy penodol, mae'r tîm trawsnewid yn cefnogi Penaethiaid a chyrff Llywodraethu i baratoi matricsau effeithlonrwydd manwl sy'n ceisio nodi meysydd i arbed costau i ysgolion drwy gynnal dadansoddiad manwl o fodelau staffio a'r cwricwlwm, a phatrymau gwario ysgolion.

Yn dilyn yr adolygiadau hyn, nodir camau allweddol i helpu ysgolion i addasu eu prosesau a'u harferion i'w cefnogi i fod yn fwy effeithlon. Ar hyn o bryd, mae'r ffrwd waith yn blaenoriaethu ysgolion sydd â diffyg ariannol, neu sy'n wynebu diffyg ariannol. Os yw cyrff llywodraethu ysgolion eraill yn dymuno cael y cymorth hwn, cysylltwch ag Allan Carter yn y lle cyntaf.


Cytundebau Lefel Gwasanaeth

Yn dilyn ymgynghori â rhanddeiliaid Ysgolion gwnaed gwaith gydag Arweinwyr CLG i ddatblygu fframwaith cyson ar gyfer data a gwybodaeth o ran CLG. Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith hwn yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol 2023-24 gyda'r costau CLG blynyddol yn cael eu casglu mewn un ddogfen ar gyfer pob ysgol. Mae'r ddogfennaeth ar gyfer Cytundebau Lefel Gwasanaeth Blynyddol wedi cael ei gosod mewn fformat cyson ac mae gwaith yn mynd rhagddo i osod yr holl CLG aml-flwyddyn yn yr un fformat. Bwriad y dull cyson hwn yw cefnogi ysgolion i allu cael gafael ar wybodaeth am eu Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn gyflym ac yn effeithlon a chefnogi'r gwaith o fonitro effeithiolrwydd a gwerth am arian wrth symud ymlaen.

Mae'r holl ddogfennaeth CLG wedi'i gosod yn ganolog a bellach gellir ei gweld ar y Porth. Mae gwybodaeth ariannol ysgolion unigol sy'n ymwneud â Chytundebau Lefel Gwasanaeth ar gael trwy fynd i Fy Ysgol ar Sharepoint CSC.


Caffael

Anogir ysgolion i gael mynediad i'r arbedion sydd ar gael drwy ddefnyddio contractau prynu corfforaethol y Cyngor.

Mae'r contractau canlynol yn agored i bob ysgol ac mae meincnodi diweddar wedi nodi bod ysgolion sy'n defnyddio'r contractau wedi sicrhau arbedion sylweddol. Yn ogystal, os bydd gan unrhyw ysgol broblemau gydag unrhyw gyflenwyr fframwaith nad ydynt yn bodloni'r lefelau gwasanaeth sy'n ofynnol o ran y contract, bydd tîm caffael CSC yn gallu helpu i ddatrys materion ac anghydfodau.


Mae'r contract hwn yn cynnig dosbarthu ystod o eitemau y diwrnod nesaf am ddim. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig opsiynau syml i brynu ar-lein mewn modd sy'n cydymffurfio, ynghyd â chyfleusterau llawn o ran credyd ac anfonebu. Ymhlith y cynhyrchion sydd ar gael y mae papur ac amlenni, deunydd ysgrifennu ac offer, llyfrau ymarfer, cyflenwadau swyddfa a chelfi, cyfleusterau a chynhyrchion hylendid a Chyfarpar Diogelu Personol.

  Mae'r contract hwn yn cynnig dosbarthu ystod eang o gyflenwadau addysgol y diwrnod nesaf am ddim. Sylwch mai dyma'r cyflenwr cymeradwy ar gyfer Ysgolion yng Nghymru. Nid yw Consortium, deiliad blaenorol y contract, bellach yn gweithredu o dan y fframwaith ac nid yw'r cwmni o dan unrhyw rwymedigaeth i fodloni'r cytundebau o ran dosbarthu a phrisiau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith. Nid yw'r cyngor ychwaith yn gallu cynorthwyo â materion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth sy'n gysylltiedig â defnyddio Consortium fel cyflenwr.


  Mae'r contract hwn yn cynnig gostyngiadau sylweddol ar gostau rhent llinell ac offer ar gyfer teleffoni. Byddwch yn ymwybodol bod nifer o gwmnïau'n ceisio cytuno ar gysylltiadau annibynnol ag ysgolion ar hyn o bryd gan ddefnyddio newidiadau 2025 i linellau BT fel esgus ar gyfer cysylltu yn y lle cyntaf. Adept yw'r unig gyflenwr cymeradwy ar gyfer ysgolion. Mae'r cwmni'n gweithio ar y cyd â'r adran TG i sicrhau y gall holl galedwedd a seilwaith ysgolion gefnogi'r newidiadau. Anogir ysgolion yn gryf i beidio â llofnodi contractau gyda chyflenwyr eraill.
Cynghorir unrhyw ysgol nad yw eisoes yn defnyddio Adept ar gyfer pob llinell ffôn i gysylltu ag Allan Carter i gael cymorth i symud i Adept.

 Mae'r contract ar gyfer darparu dyfeisiau a gwasanaethau llungopïo ar gyfer ysgolion yn CSC bellach wedi'i ddyfarnu i Canon. Os ydych mewn contract gyda Konica ar hyn o bryd, cysylltwch ag Allan Carter i gael cyngor ynghylch y camau sydd angen eu cymryd i drosglwyddo i Canon ar ddiwedd eich contract presennol. Mae amser aros sylweddol ar gyfer peiriannau ac felly cynghorir pob ysgol i ddechrau'r broses drosglwyddo o leiaf 6 mis cyn i'r contract presennol ddod i ben. PEIDIWCH ag adnewyddu eich contract gyda Konica. Bydd yr adran TG yn gweithio gydag ysgolion ar yr adeg briodol i helpu i drosglwyddo'n hwylus i'r systemau newydd.

 Mae gan y cyngor gontract corfforaethol gyda PHS ar gyfer gwasanaethau hylendid ac ystafelloedd ymolchi. I gael mynediad at brisiau penodol y Cyngor ar gyfer y contract hwn, cysylltwch â Dominic Boyle . Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd contractau y cytunwyd arnynt yn uniongyrchol â PHS yn elwa ar y prisiau is sydd ar gael i ysgolion o dan y contract corfforaethol. Argymhellir bod yr holl ysgolion yn nodi'r dyddiad y mae eu contractau presennol yn dod i ben ac yn cysylltu â Dominic o leiaf 6 mis cyn hynny er mwyn gallu cymhwyso prisiau mwy cystadleuol i gontractau yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer contractau y gellid eu harchwilio'n gorfforaethol i helpu ysgolion i gael mynediad at well prisiau drwy brynu fel grŵp, cysylltwch â'r tîm Trawsnewid.


Gwastraff ac Ailgylchu

O fis Ebrill 2024 bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r holl wastraff masnachol, gan gynnwys ailgylchu a gwastraff ysgolion, gael ei ddidoli yn y tarddle a'i gasglu yn ôl math. Mae'r cyngor yn cydnabod y bydd hyn yn cyflwyno her i ysgolion. Er mwyn cefnogi ysgolion gyda'r newid hwn, mae'r cyngor ar hyn o bryd yn gweithio gyda CWM Environmental i ddatblygu contract newydd a fydd yn darparu gwasanaethau effeithlon a chynwysyddion storio priodol mewn mannau biniau ac mewn ysgolion. Bydd ysgolion sydd eisoes gyda CWM yn cael eu cynnwys yn y dull corfforaethol hwn.

Anogir unrhyw ysgolion sy'n defnyddio cyflenwyr eraill ar hyn o bryd i adolygu eu contractau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu ac i sicrhau bod eu cyflenwyr yn cynnig cymorth priodol.

Dylai unrhyw ysgol sy'n dymuno cael dyfynbris am wasanaeth gan CWM gysylltu ag Allan Carter i gael cymorth.


Athrawon asiantaeth

Mae cost uchel athrawon asiantaeth wedi cael ei gydnabod fel maes i'w adolygu ar draws pob adran yn y cyngor. Ar hyn o bryd mae nifer o gynlluniau peilot ac adolygiadau'n cael eu cynnal i sefydlu'r rheswm dros y galw mawr am athrawon asiantaeth ac i edrych ar opsiynau i helpu adrannau i leihau'r costau dan sylw. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r tîm trawsnewid ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o athrawon asiantaeth mewn ysgolion. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion yn nhymor yr hydref i ofyn am wybodaeth ac i drafod anghenion cyflenwi i'n helpu i sicrhau bod gofynion ysgolion yn cael eu deall ac i geisio unrhyw arferion da y gellir eu rhannu i helpu i leihau costau ar gyfer ysgolion.


Dweud eich Dweud

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb.

Rydym yn croesawu syniadau ac awgrymiadau gan bob aelod o staff. Mae hyd yn oed yr awgrymiadau mwyaf beiddgar yn gallu cael eu dadansoddi weithiau er mwyn canfod rhai syniadau defnyddiol iawn na fyddent wedi cael sylw fel arall!

  • Beth y mae cwsmeriaid yn cwyno amdano a sut y gallwn atal hyn rhag digwydd?
  • Beth yw'r meysydd lle mae gwastraff neu aneffeithlonrwydd yn y broses bresennol?
  • Sut y gellir gwella'r broses?
  • A oes modd gwneud y broses gyfan yn wahanol?
  • Beth yw rhannau hanfodol y broses? A oes modd cael gwared ar y rhannau eraill?
  • A oes rheswm dros yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd? Gofynnwch "Pam?" hyd nes i chi gael rheswm, neu "oherwydd rydym wastad wedi gwneud hynny".
  • Beth sy'n gwastraffu eich amser?

Mae gen i syniad!