Diwrnod Iechyd y Byd - amser i archwilio eich iechyd eich hun

1117 diwrnod yn ôl

Mae'n Ddiwrnod Iechyd y Byd ar 7 Ebrill ac roeddem ni eisiau defnyddio'r cyfle hwn i'ch annog chi i archwilio eich iechyd eich hun.

Gellir atal neu arafu nifer o gyflyrau megis Diabetes math II a'i symptomau cysylltiedig, clefyd y galon, cancr a dementia hyd yn oed drwy wneud newidiadau i'ch ffordd o fyw. Gall gwneud archwiliadau eich hun bob 6-12 mis eich helpu chi i weld a ydych mewn perygl. Gall hyn roi amser ichi wneud newidiadau cyn dioddef o broblem iechyd neu helpu i leddfu symptomau pryder iechyd presennol.

Mae ein tudalen Archwilio eich Iechyd eich hun yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i chi ynglŷn â rhai o'r archwiliadau iechyd allweddol y gallwch eu gwneud eich hun, gan gynnwys sut y mae cynnal y profion hyn, sut y mae dehongli'ch canlyniadau, a chymorth a gwybodaeth bellach os oes angen.

Os hoffech siarad â rhywun am wneud dewisiadau iachach o ran eich ffordd o fyw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu â'r Tîm Iechyd a Llesiant sy'n gallu eich cyfeirio chi at sefydliadau amrywiol. Os ydych yn poeni am eich iechyd ar hyn o bryd, ewch i weld eich meddyg teulu neu os yw'r pryderon yn effeithio ar eich gwaith, siaradwch â'ch rheolwr llinell ynghylch cael eich cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol.