Diwrnod Gwelededd Traws

1129 diwrnod yn ôl

Mae’n Ddiwrnod Gwelededd Traws ddydd Mercher 31, 2021, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i ddathlu pobl drawsrywiol ac anneuaidd.

Rydym am sicrhau bod pobl drawsryweddol, ac unigolion sy'n mynd drwy'r broses o drawsnewid, yn cael eu trin yn deg a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth weithio i ni.

Felly, rydym wedi datblygu Canllawiau Trawsryweddol ar gyfer ein staff a'n rheolwyr i'w helpu i ddeall y profiad a’r broses o drawsnewid, yn ogystal â'r rhwystrau posibl a allai atal person trawsryweddol rhag cyflawni ei botensial yn y gweithle.

Mae hefyd yn darparu canllawiau defnyddiol ynghylch cefnogi ymgeiswyr a gweithwyr traws, gan greu amgylchedd gwaith cynhwysol, a'r cymorth y gall person traws ei ddisgwyl.

Anogir staff a rheolwyr i ddysgu rhagor drwy gael mynediad i’n modiwlau e-ddysgu.

Gellir dod o hyd i’r modiwl e-ddysgu i staff ‘Ymwybyddiaeth Traws ac Anneuaidd’ a ‘Chefnogi pobl traws ac anneuaidd yn y gwaith: canllaw i reolwyr’ yn Cwrs: Traws ac Anneuaidd (wales.nhs.uk)

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut mae mewngofnodi ar y tudalennau Dysgu a Datblygu ar y fewnrwyd

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Cefnogi Staff Trawsryweddol ar y fewnrwyd.