Dewch â'ch Dyfais Eich Hun (BYOD)

926 diwrnod yn ôl

Mae Dewch â'ch Dyfais eich hun (BYOD) bellach ar agor i'r holl staff sydd â chyfeiriad e-bost Cyngor Sir Caerfyrddin!

Mae BYOD yn caniatáu i chi gyrchu data gwaith yn ddiogel o'ch dyfais symudol bersonol (Apple neu Android). Gellir cyrchu'r data hwn o amrywiaeth o apiau Microsoft, y gellir eu lawrlwytho o'ch App Store, mae'r rhain yn cynnwys Outlook, OneDrive, Sharepoint, Office (Word, Excel a PowerPoint) a Teams.

Er mwyn defnyddio BYOD ar eich dyfais bersonol, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais trwy'r ffurflen gais hon.

Er mwyn defnyddio BYOD ar eich dyfais bersonol, bydd angen i chi wneud cais trwy eich rheolwr llinell. Byddwch yn ymwybodol na fydd BYOD yn addas ar gyfer pob aelod o staff o bosibl, a chaiff y cais ei ganiatáu yn ôl disgresiwn eich Pennaeth Gwasanaeth.

Sylwch: Mae pob defnyddiwr BYOD bellach wedi cofrestru gyda nodwedd ddiogelwch ychwanegol o'r enw Dilysu Aml-ffactor. Mae hyn yn golygu ein bod yn ychwanegu cam dilysu ychwanegol i wirio pwy ydych chi! Rydym wedi creu canllaw cam wrth gam i'ch arwain drwy'r broses.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen BYOD  ar y Fewnrwyd