Wythnos Iechyd Dynion

684 diwrnod yn ôl

Mae Wythnos Iechyd Dynion eleni rhwng 13 ac 17 Mehefin. Mae'n gyfle i roi mynediad i bob bachgen a dyn at y wybodaeth, y gwasanaethau a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd iachach, hirach a mwy boddhaus. Roedd thema Wythnos Iechyd Dynion y flwyddyn ddiwethaf yn canolbwyntio ar y pandemig drwy ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion yn oes Covid-19. Eleni, ffocws Wythnos Iechyd Dynion yw rhoi archwiliad corff i chi'ch hun.

Beth yw Archwiliad Corff?

Er bod y ffocws dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod ar y pandemig, mae llawer o bobl wedi tynnu eu llygaid oddi ar gyflyrau a allai fod yn ddifrifol. Mae astudiaethau wedi dangos bod llawer ohonom wedi colli diagnosis pwysig yn ystod y pandemig. Er enghraifft, roedd diagnosis o ganser y prostad wedi gostwng 29% yn ystod 2019 a 2020, oherwydd nad oedd dynion yn gweld y meddyg teulu pan oedd symptomau yn dechrau. Gan gofio hyn, mae'n rhoi hyd yn oed fwy o reswm i gadw llygad ar eich corff a'ch meddwl. Mae'n amser gwell nag erioed i roi archwiliad i chi'ch hun…

  1. Gwiriwch eich pwls. Rhowch fys un llaw ar ochr bawd y tendonau sy'n rhedeg drwy'r arddwrn gyferbyn. Dylech allu teimlo'r rhydweli reiddiol yn pwmpio. Cyfrwch y curiadau dros bedwar cyfnod o 15 eiliad a'u hadio gyda'i gilydd. Dyma'ch pwls gorffwys – arwydd da o effeithlonrwydd y galon.*
  2. Colli neu ennill pwysau heb esboniad? Y canllaw symlaf i weld a ydych o fewn ystod pwysau iach yw mesur eich canol.
  3. Rhowch archwiliad i chi'ch hun... A oes gennych unrhyw lympiau heb eu hegluro, anawsterau anadlu neu ddiffyg anadl, poen, chwyddo neu gosi, newidiadau o ran arferion y coluddyn neu fannau duon sydd wedi newid siâp neu faint?
  4. Rhowch sylw i'ch iechyd meddwl. Sut ydych chi'n teimlo? Gall dyddiadur hwyliau fod o gymorth i adnabod eich meddyliau, eich teimladau a'ch emosiynau a chadw golwg ar unrhyw newidiadau.

Cafodd archwiliadau iechyd pwysig y GIG eu gohirio yn ystod y pandemig; fodd bynnag, maent wedi ailgychwyn erbyn hyn. Cofiwch roi gwybod i'ch meddyg teulu am unrhyw bryderon a'u trafod.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth â'ch archwiliad corff, ewch i *Man MOT | Men's Health Forum (menshealthforum.org.uk) er mwyn cael gwybod sut i wneud eich archwiliad corff gartref. Gallwch hefyd fynd i'n tudalennau iechyd a llesiant: Cyngor ar ffordd o fyw a Hunanarchwiliad Iechyd.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant