Caffael Moesegol a Chynaliadwy
Diweddarwyd y dudalen: 26/03/2018
Budd i’r Gymuned
Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned ehangach ac mae Caffael yn ddull allweddol o'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau cynaliadwy. Gan gofio hyn, rydym wedi ymrwymo i ofyn i dendrwyr ddarparu Budd i'r Gymuned yn ein gweithgareddau tendro drwy gyflawni'r contractau neu'r fframweithiau a ddyfernir. Gallai'r manteision hyn gynnwys recriwtio a hyfforddi pobl sydd heb fod yn weithgar yn economaidd ers amser maith fel rhan o'r gweithlu sy'n rhoi'r contract ar waith; gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol o ran lleoliadau gwaith; cynnig hyfforddiant priodol drwy brentisiaethau neu ymgysylltu â chymunedau lleol ac ati.
Rhaid defnyddio dull Budd i'r Gymuned fel rhan o'r holl dendrau priodol. Yn achos unrhyw dendr sy'n werth dros £1 filiwn, rhaid inni, fel gofyniad lleiaf, weithredu, casglu a chofnodi'r Budd i'r Gymuned gan ddefnyddio Offeryn Llywodraeth Cymru ar gyfer Mesur y Budd i'r Gymuned.
Cynaliadwyedd
Er mwyn sefydlu cynaliadwyedd ar lefel ymarferol a gweithredol, mae angen cynnal Asesiad Risg Cynaliadwy. Diben yr asesiad yw sicrhau bod materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hasesu, eu deall a’u rheoli ym mhob penderfyniad allweddol ynghylch caffael. Mae hyn yn ein helpu i nodi ac elwa ar enillion cynaliadwy ar draws ein gweithgarwch contractio. Rydym yn gallu ystyried sut y gellir rhoi sylw i faterion cynaliadwyedd a'u hymgorffori wrth ddrafftio manyleb ac wrth dendro fel rhan o'r broses gaffael.
Trwy ystyried yn ofalus y gwahanol agweddau cynaliadwy sy’n berthnasol i’r contractau unigol, ein nod yw “dylanwadu” ar y fanyleb drwy fabwysiadu gofynion lleiaf a gwthio’r ffiniau lle y bo’n bosibl.
Cydraddoldebau
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod cyfrifoldeb arnom ni i ystyried cydraddoldeb wrth gaffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau. Yng Nghymru mae'n ddyletswydd arnom i ystyried cydraddoldeb mewn perthynas â'r holl gytundebau perthnasol. Ar gyfer rhai ymarferiadau caffael bydd yn ofynnol ichi gwblhau Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Yr Iaith Gymraeg
Lluniwyd Rheoliadau Safonau'r Gymraeg 2015 i roi gwell hawliau, y gellir eu gorfodi, i siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â'r Gymraeg.
Safon 76: Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 77: Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 77A: Rhaid ichi beidio â thrin tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).
Safon 79: Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi - (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).
Safon 80: Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.
Diogelu Data
Rhaid ystyried diogelu data ar gyfer pob ymarferiad tendro lle bydd mynediad i wybodaeth gyhoeddus yn cael ei rannu.
Mwy ynghylch Caffael