Dyfynbrisiau gwerth hyd at £75,000
Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2025
Ar ôl ichi ddarllen y canllaw cam wrth gam ac amcangyfrif bod gwerth eich ymarfer yn is na £75,000 ac ar ôl i chi wirio nad oes contract neu fframwaith addas eisoes wedi'i sefydlu, bydd angen i chi ddewis gwerth eich ymarfer isod i ddilyn y llwybr caffael cywir...
***Ar gyfer pryniannau o dan £30,000 gofynnir swyddogion i ‘Meddyliwch Sir Gâr Gyntaf!’ wrth geisio dyfyniadau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y trefniadau a grybwyllir uchod. Felly, archwiliwch y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu.***
Gwerth hyd at £10,000
Er eich bod yn meddwl o bosib fod llai na £10,000 yn swm cymharol isel o arian, mae'n arian cyhoeddus ac mae angen ichi sicrhau o hyd eich bod yn cael gwerth am arian. Hefyd mae'n werth nodi bod y trafodion bach hyn o bwys gyda'i gilydd a'i bod yn bosibl mai'r dyfynbrisiau hyn fydd y rhai mwyaf deniadol i'r busnesau bach a chanolig llai a'r rhai y maent yn ceisio bod yn ymwybodol ohonynt.
- Dylech fod yn fodlon y cafwyd y gwerth gorau am arian, ac y cymerwyd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol.
- Sicrhewch fod gennych y gymeradwyaeth neu'r awdurdodiad angenrheidiol i fynd ati i brynu.
- Dylid cadw cadarnhad o'r gwerth am arian ar ffeil (eich rhesymau pam mae'n rhoi gwerth am arian).
Gwerth £10,000 - £30,000
- Dylid ceisio o leiaf 3 dyfynbris o ffynonellau cystadleuol a dylent gael eu cadarnhau yn ysgrifenedig.
- Rhaid cadw cofnod dogfennol o'r gwerthusiad a'r penderfyniad i ddyfarnu. Mae angen ichi gynnwys eich rhesymau pam mai'r cyflenwr a ffafrir yw'r gwerth gorau am arian.
Gwerth £30,000 - £75,000
Rhaid hysbysebu pob cyfle i gyflwyno dyfynbrisiau sy'n werth mwy na £30,000 ar wefan GwerthwchiGymru. Bydd yr Uned Caffael Corfforaethol yn cyhoeddi'r hysbyseb, oni bai y cytunir fel arall.
- Rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb, meini prawf gwerthuso a dyddiad cau.
- Rhaid dychwelyd y dyfynbrisiau'n electronig drwy gyfleuster e-bost diogel neu drefniant e-dendro priodol.
- Bydd y Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am gadw cofnodion dogfennol digonol o'r holl ymarferion ceisio dyfynbrisiau a gynhelir (gan gynnwys y broses werthuso)
- Os mai dim ond un dyfynbris sy'n dod i law, rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan Bennaeth Gwasanaeth yr adran berthnasol.
Beth yw ystyr 'gwerth gorau am arian'?
Ystyr gwerth gorau am arian yw'r cyfuniad mwyaf manteisiol o ran cost, ansawdd a chynaliadwyedd i ddiwallu gofynion y cwsmer.
Yn y cyd-destun hwn:
• mae cost yn golygu ystyried y gost oes gyfan
• mae ansawdd yn golygu bodloni manyleb sy'n addas i'r diben ac yn ddigon i ddiwallu gofynion y cwsmer
• mae cynaliadwyedd yn golygu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
Caffael
Mwy ynghylch Caffael