Terminoleg

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2024

Isod ceir termau caffael cyffredin y gallech ddod ar eu traws wrth gaffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau.

  • Tendr afresymol o isel: ystyr afresymol o isel yw tendr yr ystyrir bod ei bris yn sylweddol is na'r rhan fwyaf o'r holl dendrau, neu gyfartaledd yr holl dendrau, yn yr un ymarferiad tendro.
  • Rhestr gymeradwy: mae rhestr gymeradwy/ddethol yn peri risg sylweddol i'r Awdurdod ac nid argymhellir hynny'n arfer caffael derbyniol. Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Rheolwr Caffael cyn llunio neu fabwysiadu rhestr dendro gymeradwy/ddethol.
  • Y Bond: polisi yswiriant: Bwriedir i fond ddiogelu'r Cyngor rhag lefel o gost sy'n deillio o fethiant contractwr.
  • Budd i’r Gymuned: Drwy'r ymarferiad tendro, ceisio hybu cyfleoedd ychwanegol a fydd o fudd i'r gymuned ehangach. Gallai hynny gynnwys cyfleoedd o ran hyfforddiant a gwaith, gwella'r cyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi, rhagor o gyfraniadau addysgol a/neu fentrau cymunedol.
  • Contract: cytundeb rhwng y prynwr a’r cyflenwr sy’n cael ei orfodi gan y gyfraith.
  • Ffynhonnell Gystadleuol: darparwr annibynnol yn gwneud cynnig yn erbyn darparwr annibynnol arall
  • Yr Uned Caffael Corfforaethol: Mae Uned Caffael Corfforaethol yr Awdurdod yn rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch Caffael.
  • Nwyddau: eitemau materol, h.y. offer, bwyd, cerbydau ac ati.
  • Gwerthuso: dull o bennu pa gynnig yw'r gorau o ran darparu gwerth am arian yn unol â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd ymlaen llaw
  • Meini Prawf Gwerthuso: Rhestr o'r gofynion allweddol a dynnwyd o'r fanyleb a fydd yn galluogi'r cyflenwyr i esbonio sut y maent yn bwriadu darparu'r gofynion a gaiff eu gwerthuso. Mae’r meini prawf y pennir y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd arnynt yn seiliedig ar gyfuniad o bris/cost ac ansawdd.
  • Panel Gwerthuso: Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i gynnal yr ymarferiad gwerthuso. Fe all fod yn briodol cael panel traws-swyddogaethol. Dylai'r panel gytuno ar y fanyleb a'r meini prawf gwerthuso. Dylai'r Panel weithredu'n gyson ym mhob cam o'r ymarferiad caffael.
  • Cytundeb Fframwaith: Cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau / cyrff cyhoeddus ac un neu ragor o weithredwyr economaidd, er mwyn sefydlu'r telerau sy'n rheoli contractau sydd i'w rhoi yn ystod cyfnod penodol (contractau yn ôl y gofyn).
  • Corff Arweiniol: Unrhyw gorff y caniateir yn gyfreithlon i'r Awdurdod gaffael gydag ef neu drwyddo, gan gynnwys Adrannau'r Llywodraeth Ganolog, Awdurdodau Lleol eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
  • Swyddog Arweiniol: Y swyddog a ddynodir gan y Prif Weithredwr i ymdrin â'r contract dan sylw ac sy'n brif gyswllt rhwng yr Awdurdod a'r contractwr perthnasol ac a fydd yn gyfrifol am reoli'r contract.
  • Swyddog Monitro: Y swyddog a ddynodir gan yr Awdurdod yn unol â darpariaethau Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015: rheolau a rheoliadau yw’r rhain y mae’n rhaid i sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus eu dilyn wrth gaffael Nwyddau, Gwaith a Gwasanaethau dros drothwy penodol (£214,904 ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau, £5,372,609 ar gyfer contractau Gwaith a £663,540 Gwasanaethau llai manwl cymdeithasol a thebyg (ON: Mae’r rhain yn CYNNWYS TAW) - lle dylid cynnal Ymarfer Tendro swyddogol yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
  • Swyddog Adran 151: Y swyddog a ddynodir gan yr Awdurdod o dan Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
  • GwerthwchiGymru: Gwefan Gaffael Genedlaethol yw hon lle caiff holl gontractau’r sector cyhoeddus eu hysbysebu. Gall rhai sy'n derbyn Grantiau Trydydd Parti hysbysebu ar y wefan yn rhad ac am ddim. Ebostiwch support@buy4wales.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.
  • Gwasanaethau: tasgau a wneir gan bobl h.y. gwasanaethau ymgynghoriaeth, gwasanaethau cyfieithu ac ati.
  • Manyleb: datganiad ysgrifenedig yw hwn sy’n diffinio'r gofynion. Bydd y fanyleb yn amrywio yn ôl y gwaith, y cynnyrch neu’r gwasanaeth dan sylw. Ar gyfer cynnyrch syml, gall y fanyleb fod yn ddim mwy na disgrifiad cryno ond yn achos gofyniad cymhleth bydd yn ddogfen gynhwysfawr.
  • Tendr: y ddogfen y bydd darpar gyflenwr yn ei llunio mewn ymateb i wahoddiad i dendro. Mae’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol sy’n dangos gallu a chymhwysedd y cyflenwr, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am sut y mae’n bwriadu cyflawni'r gofynion o ran y fanyleb.
  • Panel Gwerthuso Tendrau: Grŵp o swyddogion a benodir gan y Swyddog Arweiniol i ymgymryd ag ymarferiad gwerthuso tendrau ar gyfer contract neu Fframwaith. Bydd y grŵp o swyddogion dan sylw yn parhau yn ddigyfnewid gydol y broses, a bydd ganddynt y cymwysterau a/neu’r arbenigedd angenrheidiol i gynghori’r Swyddog Arweiniol ar faterion technegol, caffael, cyfreithiol, ariannol, polisi a staffio.
  • Gwaith: gan gynnwys tirweddu, adeiladu, gwaith adeiladu ac ati.