Hyfforddiant Gyrru i Staff
Diweddarwyd y dudalen: 29/07/2024
- Staff newydd y mae arnynt angen asesiad gyrrwr i yrru cerbydau arbenigol y sir, staff sydd newydd basio eu prawf gyrru ac ailasesiadau staff (os oes eu hangen, gweler isod).
- Staff y mae eu rheolwr yn gofyn am asesiad (megis ar ôl damwain/digmwyddiad/cŵyn gan y cyhoedd).
- Staff nad yw eu trwydded yn caniatáu iddynt yrru rhai cerbydau (a ddefnyddir gan eu gwasanaeth).
- Staff y mae angen iddynt ymgyfarwyddo’n fwy â rhai cerbydau (megis ceir/tryciau 4x4 a cheir trydan).
Mae gofyniad gorfodol i staff gael hyfforddiant ymgyfarwyddo ar gyfer ceir 4x4 a'r ceir trydan ond mae'n rhaid i reolwyr gynnal gwiriadau ar drwyddedau gyrru cyn caniatáu i'w staff fynd â cheir adrannol am y tro cyntaf. Dylai gyrwyr sy'n defnyddio faniau/tryciau a cherbydau 3.5 tunnell a drosodd gael eu hasesu.
Gall staff yrru'r cerbydau a ganiateir gan eu trwydded yrru yn unig (e.e. gall deiliaid trwydded categori B yrru cerbydau hyd at a chan gynnwys 3.5 tunnell). Er mwyn ychwanegu categorïau eraill, mae'n rhaid i staff basio prawf ymarferol yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (a hefyd y profion theori ar gyfer rhai categorïau).
Mae asesiad safonol yn para hyd at 1 awr ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau. Gall asesiadau estynedig bara rhwng 2 awr a 3 diwrnod, gan ddibynnu ar ofynion y rheolwr.
Mae hyfforddiant ar geir trydan yn para rhwng 45 munud ac 1 awr
Mae hyfforddiant ar gerbydau 4x4 oddi ar y ffordd yn para 1.5 awr
Mae hyfforddiant a phrawf i gael trwydded ar gyfer bysiau mini, faniau mawr a lorïau bach (hyd at 7.5 tunnell) yn para o leiaf 1.5 diwrnod fesul ymgeisydd
Mae hyfforddiant a phrawf i gael trwydded ar gyfer bysiau a lorïau mwy yn para o leiaf 2.5 diwrnod fesul ymgeisydd
Mae hyd yr hyfforddiant ar wagenni fforch godi a chyfarpar/peiriannau eraill ag olwynion yn dibynnu ar brofiad blaenorol y gweithredwr. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
I cael gwybodaeth am y ffioedd perthnasol ac i drefnu dyddiad addas Cysylltwch a:
Ryan Robinson
01267 228119
Iwan Richards
01267 228120
Mwy ynghylch Teithio a Pharcio