Meysydd parcio staff
Diweddarwyd y dudalen: 20/10/2023
Mae gennym feysydd parcio ar gyfer staff yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Llandeilo, Rhydaman a’r depo priffyrdd yn Cross Hands (Nantglas). Mae rhai’n gyfyngedig i aelodau yn unig ac wedi’u dyrannu i staff sydd wedi’u lleoli yn y swyddfeydd. Mae’r trefniant ar gyfer ymwelwyr (yn staff ac aelodau o’r cyhoedd) yn amrywio ym mhob maes parcio.
Parcio ar gyfer staff yng Nghaerfyrddin
Mae gennym feysydd parcio yn Neuadd y Sir, Glantywi, Heol Spilman a Parc Myrddin. Mae’r trefniadau ar gyfer ymwelwyr a staff yn amrywio ar gyfer pob safle.
Parcio ar gyfer staff yn Llanelli
Mae gennym feysydd parcio yn Neuadd y Dref Llanelli, Tŷ Elwyn, Porth y Dwyrain, Coleshill, Y Goleudy, Dechrau’n Deg yn y Morfa, a’r depo yn Nhrostre. Mae’r trefniadau ar gyfer ymwelwyr a staff yn amrywio ar gyfer pob safle.
Parcio ar gyfer staff yn Llandeilo, Rhydaman a Cross Hands
Mae gennym feysydd parcio yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llandeilo, Neuadd y Dref Rhydaman, Parc Amanwy a depo priffyrdd Nantglas yn Cross Hands. Mae’r trefniadau ar gyfer ymwelwyr a staff yn amrywio ar gyfer pob safle.
Mwy ynghylch Teithio a Pharcio