Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

650 diwrnod yn ôl

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn yr awdurdod

Mae cysylltiad agos iawn rhwng straen, iechyd meddwl a llesiant emosiynol ac maent i gyd yn brif ffactorau wrth ystyried ein hiechyd a'n llesiant yn gyffredinol.  Mae hyn yn cynnwys ein gallu i ddelio â gofynion a phwysau bywyd bob dydd. Mae'n hanfodol cynnal ein llesiant a lleihau'r risg o ddatblygu iechyd meddwl gwael.  Gall gormod o bwysau emosiynol neu feddyliol gyfyngu ar ein gallu i ymdopi felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r hyn y gallwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n llesiant emosiynol ac yn hynny o beth aros yn hapus ac yn iach.

Beth yw swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl?

Mae’r Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn gwneud gwaith ataliol a rhagweithiol. Staff ledled yr awdurdod yw'r Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ac maent wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cymorth cyntaf iechyd meddwl i gydweithiwr mewn angen – pan fydd yn profi argyfwng iechyd meddwl neu drallod emosiynol. Maent hefyd wedi’u hyfforddi i adnabod arwyddion cynnar afiechyd meddwl mewn eraill. Maent yn gallu darparu cymorth cychwynnol, clust anfeirniadol, empathetig ac yn gallu cyfeirio rhywun yn hyderus at gymorth priodol, yn fewnol ac yn allanol.  Maent hefyd yn gallu delio ag argyfyngau.

Sut i gysylltu

Mae manylion cyswllt yr holl Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig ar y fewnrwyd, ac mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un ohonynt. Gallwn eich sicrhau fod pob sgwrs yn gyfrinachol.

Sut i ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Bydd ein cwrs nesaf i ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cael ei gynnal ar 23 Medi a 30 Medi rhwng 9:30-12:30. Nodwch fod y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr yn unig a bydd yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnal sgyrsiau anodd yn ystod arfarniadau, cyfarfodydd 1:1 a chefnogi iechyd meddwl a llesiant eich tîm yn gyffredinol.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â'n Tîm Iechyd a Llesiant i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ddydd Mawrth 2 Awst am 12:30. Fel arall, ewch i Gwybodaeth i Ymgeiswyr, i wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

I ymuno, ewch i'n Tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau neu Beth sy 'mlaen a chliciwch ar y ddolen ar y diwrnod. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at health&wellbeing@sirgar.gov.uk i gael gwahoddiad Teams.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant