Y Tîm Iechyd a Llesiant

35 diwrnod yn ôl

Mae’r Tîm Iechyd a Lles yma i gefnogi lles corfforol a meddyliol ein staff yn ogystal â chynnig atebion ymarferol â ffocws i reolwyr. Wrth wneud hynny, ein nod yw helpu i amddiffyn ein gweithlu a'r awdurdod yn y dyfodol agos ac yn y tymor hwy.

Mae ein Cydlynwyr Iechyd a Llesiant yn darparu ystod o adnoddau a chyfeirio trwy ein tudalennau mewnrwyd Iechyd a Lles ac rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod y cynnwys a ddarparwn yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i bawb.

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n:

  • Cael grwpiau Iechyd a Lles ar draws pob adran. Fel rhan o’r grwpiau hyn rydym yn rhoi cymorth a chyngor i reolwyr ddatblygu cynlluniau gweithredu a rhoi ymyriadau ar waith, trefnu arolygon llesiant a datblygu Siarteri Llesiant.
  • Rhoi cyngor ar ffordd o fyw, arweiniad a chyfeirio ar bynciau amrywiol.
  • Cyflwyno cyflwyniadau a gweithdai mewn perthynas â lles.
  • Recriwtio, hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Iechyd a Lles a Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
  • Datblygu a chefnogi mentrau hybu iechyd yn unol â diwrnodau a digwyddiadau iechyd a lles cenedlaethol.
  • Cynnal e-sgyrsiau a digwyddiadau a gweithgareddau eraill mewn perthynas ag Iechyd Meddwl er mwyn parhau i godi proffil iechyd meddwl a lleihau'r stigma iechyd meddwl ar draws yr awdurdod.
  • Cynnal heriau iechyd a lles corfforaethol drwy gydol y flwyddyn, megis Her Camu i Gam y Gwanwyn, (ar ddod yn fuan).

Gallwch hefyd dderbyn cefnogaeth a chyngor trwy gysylltu ag un o'ch Hyrwyddwyr Iechyd a Lles. Mae gennym dros 70 o Hyrwyddwyr a all gefnogi, annog ac ysbrydoli cydweithwyr ar bynciau Iechyd a Lles mewn ffordd anffurfiol.

Ar hyn o bryd mae gennym hefyd dîm o dros 100 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar draws yr awdurdod a all eich cefnogi. Maent wedi'u harfogi i ddarparu cymorth cychwynnol, clust anfeirniadol, empathetig ac i gyfeirio rhywun yn hyderus at gymorth priodol, yn fewnol ac yn allanol, maent yn gallu delio ag argyfyngau hefyd.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, pryderon neu awgrymiadau sy’n ymwneud â llesiant, cysylltwch â’r Tîm Iechyd a Lles yn gyfrinachol drwy’r ffurflen gyswllt ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn iechyd&lles@sirgar.gov.uk

Darperir cyngor yn bennaf dros y ffôn, e-bost a Microsoft Teams gyda wyneb yn wyneb yn ôl yr angen.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Iechyd a Lles.

Erthygl gan: Tîm Iechyd a Llesiant